Ewch i’r prif gynnwys

Ffyrdd amgen o fyw: Datblygu rhwydwaith tai a arweinir gan gymunedau yng Nghymru

Nod y prosiect hwn oedd gosod y sylfeini ar gyfer creu rhwydwaith tai a arweinir gan gymunedau yng Nghymru, gan gydnabod profiad, disgwyliadau a phryderon presennol rhanddeiliaid gwahanol fel sylfaen ar gyfer trafodaethau ac ymchwil yn y maes yn y dyfodol.

Fe wnaethon ni gynllunio cyfres o weithdai Tai a Arweinir gan y Gymuned ac fe’u cynhaliwyd yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2024. Ysgogodd y gweithdai hyn gyffro wrth ddangos sut y gall Tai a Arweinir gan y Gymuned gynnig cartrefi o safon mewn cymunedau cynaliadwy ac iach. Gosodwyd y sylfaen ar gyfer sefydlu partneriaethau i weithio ar dair thema allweddol:

  • Manteision a Fforddiadwyedd: rhoi cartrefi deiliadaeth gymysg cynhwysol mewn cymunedau cydnerth
  • Cynllunio a Chyllid: heriau creu tai arloesol o fewn strwythurau cyhoeddus nad ydyn nhw wedi’u dylunio i gefnogi datblygiad cydweithredol o’r fath, yn enwedig o ran cynllunio a chyllid.
  • Dylunio a Llywodraethu: sut mae dyluniad ffisegol prosiect yn gysylltiedig ag anghenion grŵp mewn lleoliadau daearyddol penodol a'r prosesau democrataidd a all wireddu'r dyheadau hyn.

Roedd y gweithdai'n mynd i’r afael â phrofiadau pobl sy'n ymwneud â'r prosesau o ddychmygu, dylunio, cynllunio, cefnogi a byw mewn prosiectau tai a arweinir gan y gymuned, ac yn ategu’r profiadau hynny. Gosodon nhw’r sylfaen ar gyfer rhwydwaith tai a arweinir gan y gymuned yng Nghymru, gan ystyried profiadau, disgwyliadau a phryderon presennol rhanddeiliaid gwahanol ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.

Cododd sgyrsiau gyda’r cyfranogwyr gwestiynau am dri maes eang sy’n amlinellu agenda ymchwil ar gyfer y dyfodol ar Dai a Arweinir gan y Gymuned:

  1. Pam ei wneud? Pam mae grwpiau yn cymryd rhan mewn tai a arweinir gan y gymuned? Pam mae hyn yn cael ei wneud yng Nghymru? Beth yw'r manteision i grwpiau a'r gymdeithas ehangach?
  2. Sut mae'n cael ei gynnal? Sut mae tai a arweinir gan y gymuned yn cael eu darparu ar hyn o bryd? Sut gall cyrff statudol ei gefnogi?
  3. Beth sy'n gwneud iddo weithio? Beth sy'n dod â'r gymuned ynghyd mewn tai a arweinir gan y gymuned? Pa elfennau dylunio sy'n gwneud i hyn weithio?