Tranc a Bywyd Trefolaeth Neoryddfrydol

Yn y degawd a hanner ers argyfwng ariannol 2008, rydyn ni wedi gweld neoryddfrydiaeth yn crebachu; p’un ai ar ffurf y weithred Keynesaidd o achub y banciau, defnyddio llymder yn fodd o ddial, yr ergyd driphlyg i fasnach fyd-eang o ganlyniad i Brexit, y pandemig a pholisïau arlywyddion diweddar yr UDA, neu ddatblygiad ‘economi o rentwyr wedi’i harianoli’, fel y mae Thomas Piketty yn ei disgrifio. Mae ailstrwythuro cyfalafiaeth wedi dylanwadu ar brosesau, polisïau ac athrawiaeth drefol, boed hynny ai drwy drefolaeth yn seiliedig llymder, fel y mae Jamie Peck, y daearyddwr, wedi galw polisïau canol y 2010au, drwy drefoli cyrion dinasoedd, neu ddatblygu’r ‘ddinas wedi’i harianoli’.
Mae'r prosiect ymchwil hwn yn edrych yn ôl ar ffurfiau amrywiol trefoli neoryddfrydol, o’r cysyniad o ‘Ddinas Ddigymell’ Jacobs i’r ‘Ddinas y mae modd byw ynddi’, o leihau cynllunio i ymlediad parthau menter a BIDs. Mae'n dangos bod trefoli neoryddfrydol yn cynnwys nifer o athrawiaethau a phrosesau, sy’n aml yn tynnu’n groes i’w gilydd, ac mewn rhai achosion, yn gwrthwynebu ei gilydd yn gyfan gwbl. Mae'r prosiect hefyd yn edrych y tu hwnt i neoryddfrydiaeth ar y blynyddoedd a ddilynodd yr argyfwng ariannol, ar y mathau newydd o drefolaeth ôl-neoryddfrydol a ddaeth i’r amlwg, ar ddatblygu ac ailddatblygu, gan gynnwys dymchwel stadau tai cyngor dros ardal eang yn Llundain, arianoli’r ddinas, ac ailstrwythuro’r ddinas yn y tymor hir. Mae'r ymchwil hwn yn edrych yn ôl ar y prosesau sy’n ail-greu’r ddinas ar hyn o bryd, gyda fframwaith economaidd sy’n dod i’r amlwg, a’i gelwir yn ‘cyfalafiaeth newydd y wladwriaeth’ sy’n cynnig gwerthusiad trylwyr o’u ffurf a’u cyrchfan.
Arweinydd y prosiect:
Cyhoeddiadau cysylltiedig:
Cyllid:
Cafodd y gwaith ymchwil ar drawsnewid cyrion dinas Llundain ei ariannu gan Leverhulme.