Ewch i’r prif gynnwys

Canllaw arfer da i godi ymwybyddiaeth am ansawdd aer dan do ar iechyd a lles lleiafrifoedd ethnig.

Nod y prosiect hwn oedd defnyddio ymchwil diweddar i roi arweiniad i gymdeithasau tai ar sut y mae amgylcheddau cartref dan do yn cael eu heffeithio gan y ffordd y mae deiliaid cartrefi sydd o leiafrifoedd ethnig yn byw.

Mae ymchwil wedi dangos y gall rhai ymddygiadau diwylliannol gael effaith ar ansawdd aer dan do, gan achosi problemau sy'n cynnwys cyddwysiad, defnyddio llawer o ynni a chysur thermol gwael. Gall hyn, yn ei dro, gael effaith ar iechyd a lles. Gan weithio gyda’r gymuned, edrychon ni ar greu canllawiau ar gyfer cymdeithasau tai a phreswylwyr ar ffyrdd i leihau’r effaith ar yr amgylchedd dan do gan barhau i allu cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol.

Ag yntau wedi'i hwyluso gan Gyngor Caerdydd a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST), cafodd y prosiect ei gynllunio ar y cyd â thenantiaid tai Cyngor Caerdydd mewn cyfres o weithdai. Edrychon ni hefyd ar astudiaethau achos oedd yn dangos patrymau ymddygiad a gwybodaeth gan ddyfeisiau casglu data labordai byw.

Casglwyd argymhellion ynghyd ar ffurf canllaw arfer da ar gyfer cynghorau, a fydd yn gallu ehangu a rhannu’r argymhellion ledled Cymru.

Prif Ymchwilydd

Picture of Satish Bk

Dr Satish Bk

Uwch Ddarlithydd mewn Tectoneg Bensaernïol ac Uwch Diwtor Personol

Telephone
+44 29208 79400
Email
Satish.BK@caerdydd.ac.uk

Tîm y prosiect

Picture of Rawan Jafar

Rawan Jafar

Myfyriwr Ymchwil/Tiwtor Graddedig

Email
JafarR@caerdydd.ac.uk
Picture of Simon Lannon

Dr Simon Lannon

Uwch Gymrawd Ymchwil

Telephone
+44 29208 74437
Email
Lannon@caerdydd.ac.uk

Cyllid

EPSRC – IAA