Gwella gwytnwch yn erbyn gwendidau a achosir gan wres eithafol: astudiaeth achos o Ranbarth Cairo Fwyaf
Ychydig o astudiaethau cynhwysfawr ar effeithiau tymheredd eithafol ar iechyd sy’n trafod yn Cairo, dinas fawr iawn sy’n arbennig o dueddol o ddioddef gwres eithafol ac lle mae adnoddau i addasu a lliniaru ei effeithiau yn brin.
Drwy ein gwaith ymchwil, rydym yn ceisio llenwi’r bwlch hwn gan ddefnyddio dulliau wedi'u targedu i ystyried y berthynas ofodol rhwng risg gwres, nodweddion trefol, ardaloedd bregus mewn dinas, a nifer o ddangosyddion iechyd y cyhoedd sy’n sail i lunio strategaethau lliniaru gwres yn Cairo.
Mae Cairo yn dioddef o wres sylweddol a thonnau o wres, gan gynnwys yn 2015, pan gyrhaeddodd y tymheredd hyd at 490C gan arwain at nifer o farwolaethau. Mae astudiaethau diweddar yn dangos bod y rhan fwyaf o ardaloedd trefol Rhanbarth Cairo Fwyaf yn arbennig o dueddol o ddioddef o ganlyniad i wres. Er hynny, ychydig iawn o astudiaethau sy'n edrych ar arferion lleol ar gyfer ymdopi â chyfnodau o wres, sef nod yr astudiaeth hon. Er bod rhai yn cynnig strategaethau lliniaru posibl, mae'r lenyddiaeth yn parhau i fod yn anghyflawn, ac nid yw wedi cael ei dilysu.
Bydd yr astudiaeth hon yn gwella’r ymdrech gydweithredol gan ystyried dod i gysylltiad â gwres yn Rhanbarth Cairo Fwyaf drwy ddefnyddio data lloeren synhwyro o bell, ac ymchwilio i astudiaethau achos penodol. Bydd hefyd yn casglu data ar ganfyddiadau lleol o wres, ac arferion cymdeithasol-ddiwylliannol sy'n gysylltiedig â byw mewn gwres. Bydd mesuriadau microhinsawdd yn cael eu cynnal i gefnogi’r gwaith o ddadansoddi a nodi’r ymyriadau lleol posibl.
Mae'r astudiaeth yn ychwanegu i’r canfyddiadau gan waith diweddar gan Brifysgol Cairo, sydd wedi llunio canllawiau dylunio ar gyfer gwella mannau gwyrdd ac iach mewn cymunedau difreintiedig yn Cairo. Gan ddefnyddio’r dystiolaeth newydd a gafodd ei gynhyrchu, bydd modd ymestyn cwmpas yr astudiaeth gyfredol hon a chasglu data cychwynnol a fydd yn cefnogi ceisiadau cyllido yn y dyfodol i ddatblygu a phrofi ymyriadau iechyd gwres, gan ddefnyddio strategaethau lliniaru ar gyfer cymunedau sy’n agored i niwed.
Prif Ymchwilydd
Dr Tania Sharmin
Uwch Ddarlithydd Dylunio Amgylcheddol Cynaliadwy
Cyd-ymchwilwyr
Cyd-ymchwilwyr y Sefydliad Partner ODA
Yr Athro Heba Allah Essam El-Din Khalil, yn y Gyfadran Peirianneg,
Sherine Gammaz, yn y Gyfadran Peirianneg,
Sefydliad partner Cymorth Datblygu Swyddogol
Dr Marwa Ahmed Soliman
Cydweithredu Rhyngwladol a Chyfranogiad Cymunedol, Y Gronfa Ddatblygu Drefol
Dr Deena Khalil
Y Ganolfan Ymarferwyr Tai mewn Ardaloedd Trefol yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, Habitat for Humanity International,
Cyllid
Gwobrau Cymorth Datblygu Swyddogol ODA CCAUC