Ewch i’r prif gynnwys

Datblygiad Byd-eang a Gwrthddywediadau 'Dŵr Newydd' (GloNeW)

Prosiect ymchwil pum mlynedd o hyd yw GloNeW, sy'n dadansoddi’r ymddangosiad rhyfeddol o adnoddau dŵr anghonfensiynol, neu 'newydd', megis dihalwyno ac ailddefnyddio dŵr gwastraff, wrth i gymdeithasau geisio mynd i'r afael â’r heriau hirbarhaol a dirywiol sy’n gysylltiedig â dŵr.

Manylion

Un o’r heriau pwysicaf a chyson drwy bob rhan o’r byd yw dŵr - mae dros hanner poblogaeth y byd yn wynebu prinder dŵr bob blwyddyn, ac mae adroddiad graddfa fwyaf gan y Cenhedloedd Unedig yn 2023 yn dangos hanner ffordd drwy’r broses Nodau Datblygu Cynaliadwy, bod cynnydd tuag at fynediad at ddŵr i bawb wedi bod yn gyfyngedig.

Mae nifer o arbenigwyr yn gweld y newid i ddŵr anghonfensiynol fel un o'r ymatebion pwysicaf – ac o bosibl yn allweddol i’r argyfwng dŵr. Mae llawer yn cael ei wario ar arloesedd technolegol, ond ychydig iawn ydyn ni’n gwybod am y goblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol o’r newidiadau hyd yma. Bydd prosiect GloNeW yn mynd i'r afael â'r bwlch hwn mewn gwybodaeth.

Seilweithiau dŵr newydd

Ychydig iawn ydyn ni’n gwybod am y goblygiadau o seilweithiau dŵr newydd ar ddatblygiad yng nghyd destunau yn Ne’r Byd, sydd aml yn wynebu anghydraddoldebau dŵr gan arferion sydd wedi hen sefydlu. Mae perygl y bydd y syniad o greu dŵr 'newydd' yn datrys heriau dŵr a chyflawni nodau datblygu cynaliadwy yn unig, ond hefyd arwain at y math anghywir o newid dŵr mewn cyd-destunau cymhleth.

Prif amcan y prosiect, felly, yw asesu'n feirniadol sut mae adnoddau dŵr newydd yn cael eu defnyddio i fynd i'r afael â heriau dŵr yn Ne’r Byd, ac yn ei dro, dadansoddi sut maent yn llywio cyfleoedd datblygu. Bydd y prosiect yn cyfuno dadansoddiad o'r diwydiant dŵr newydd yn fyd-eang gydag ymchwil ar astudiaethau achos manwl yn Kenya, Moroco a De Affrica, sydd, er eu bod yn wynebu heriau gwahanol iawn, hefyd yn troi at ddŵr newydd oherwydd sycher dros nifer o flynyddoedd.

Amcanion

  • Dadansoddi sut a pham mae adnoddau dŵr anghonfensiynol yn cael eu defnyddio i fynd i'r afael â heriau dŵr mewn amrywiaeth o gyd-destunau yn Ne’r Byd.
  • Trafod a thrin sut mae technolegau dŵr anghonfensiynol yn ystyried ac yn atgyfnerthu’r buddiannau economaidd a gwleidyddol cysylltiedig.
  • Cwestiynu sut mae defnyddio’r technolegau hyn yn effeithiol er mwyn cael mynediad at ddŵr fforddiadwy, sydd yn ddiogel.

Pobl

Dr Joe Williams Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio bydd yn arwain y prosiect a fydd yn ychwanegu at arbenigedd ymchwil presennol Prifysgol Caerdydd yn ySefydliad Ymchwil Dŵr.

Bydd tîm o ddau ymchwiliwr ôl-ddoethurol a myfyriwr PhD yn gweithio ar y prosiect. Bydd y prosiect yn dod â phartneriaid rhyngwladol ynghyd hefyd, gan gynnwys Dr Wangui Kimari o Brifysgol Americanaidd, Kenya a Dr Pierre-Louis Mayaux o sefydliad CIRAD, Ffrainc.


Cefnogaeth

Roedd modd cynnal yr ymchwil hon o ganlyniad i gefnogaeth y sefydliadau canlynol: