Daearyddiaethau’r Menopos
Ym Mhrydain gyfoes, mae’r menopos wedi’i gysyniadu’n bennaf fel petai’n ddigwyddiad meddygol: diben yr ymchwil hon yw ceisio ei ail-ddiffinio’n un cymdeithasol.
Manylion
Drwy gyfweld â menywod o wahanol rannau o’r DU ac o sawl cefndir cymdeithasol, bydd y prosiect hwn yn trin a thrafod sut mae profiadau menywod o’r menopos wedi (ail)lywio eu profiadau o ofod a lle; eu dealltwriaeth o'u cyrff a bywgraffiadau corfforol; a'u perthynas â gwaith cyflogedig, eu teuluoedd a’u ffrindiau.
Trwy hynny, bydd y gwaith hwn yn llenwi bwlch empirig mawr ym mywydau atgenhedlu menywod, ac â’i ffocws ar hyn o bryd yw profiadau o feichiogrwydd, genedigaeth a bod yn fam. Nid yw’r rhain yn dweud fawr dim wrthon ni ynghylch profiadau menywod o’r cyfnod pwysig hwn mewn bywyd.
Amcanion
Deall y menopos yn well fel profiad cymdeithasol-ofodol y mae menywod yn ei gael, a hynny mewn gwahanol gyd-destunau cymdeithasol a daearyddol yn y DU.
Pobl
Cefnogaeth
Roedd modd cynnal yr ymchwil hon o ganlyniad i gefnogaeth y sefydliadau canlynol: