Ewch i’r prif gynnwys

Platfform Mapio Cyhoeddus ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae’r Platfform Mapio Cyhoeddus yn brosiect ymchwil dwy flynedd o hyd sy’n ceisio gwneud lleoedd yn y DU yn well i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ynddyn nhw.

Manylion

Mae’r Platfform Mapio Cyhoeddus (PMP) yn brosiect gan Ecosystemau Pontio Gwyrdd Arsyllfa’r Dyfodol a ariennir ar y cyd â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, sydd a’r nod o newid y ffordd y mae cynllunio’n digwydd mewn awdurdodau lleol ledled y DU drwy gynnwys cymunedau yn y gwaith o fapio eu hardal.

Fel arfer, dim ond 1% o’r gymuned fydd yn cael mynegi eu barn ar faterion sy’n ymwneud â chynllunio yn eu hardal oherwydd ei bod yn anodd ymgysylltu â’r dulliau sydd ar waith i roi adborth, ac maen nhw’n ddiflas iawn ar hyn o bryd.

Data

Gan ganolbwyntio ar Ynys Môn yng ngogledd Cymru i ddechrau, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar gasglu data amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol o blant a phobl ifanc lleol a’u teuluoedd.

Gallai’r data hyn gynnwys synau wedi’u recordio, darluniau, pethau maen nhw’n eu harogleuo ar deithiau cerdded hinsoddol, cofnodion gweledol o flodau tymhorol a thraddodiadau llafar lleol a fydd yn mynd law yn llaw â data sy’n fwy cyffredin (darlleniadau tymheredd a demograffeg y boblogaeth) i greu “cyfuniad o ddata” aml-haenog o Ynys Môn.

Bydd y data gwahanol a fyddwn ni’n casglu dros oes y prosiect yn arwain at greu enghraifft o fap cyhoeddus, a fydd yn cael ei ddylunio’n bwrpasol fel bod pobl yn gallu gwneud synnwyr o'r data am eu hardal er mwyn iddyn nhw allu ymwneud ymhellach â phenderfyniadau cynllunio lleol.

Amcanion

Mae’r Platfform Mapio Cyhoeddus wedi’i ddylunio gyda Chymru wrth wraidd y peth – ei phobl, ei lleoedd, a’i sefyllfa o ran polisïau a deddfwriaeth. Nod y prosiect yw:

  • cynnwys plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau am eu lleoedd.
  • cefnogi datblygu system gynllunio sy’n seiliedig ar fapiau a data a wneir ar y cyd a chymunedau fel bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar sail ystod o dystiolaeth.
  • datblygu mapiau cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd dibynadwy a dealladwy sy'n dangos anghydraddoldebau ac yn olrhain cynnydd tuag at wneud lleoedd yn fwy cynaliadwy a gwydn.
  • cefnogi awdurdodau lleol i symud tuag at system gynllunio ddigidol sy’n seiliedig ar fapiau a data.
  • gwella’r ffordd y mae ymgynghoriadau cymunedol ar faterion cynllunio yn cael ei chynnal ledled y DU yn sylweddol.

Pobl

Gellir gweld y tîm arweinyddiaeth a chyd-ymchwilio llawn ar wefan y Platfform Mapio Cyhoeddus.


Cefnogaeth

Roedd modd cynnal yr ymchwil hon o ganlyniad i gefnogaeth y sefydliadau canlynol: