Ewch i’r prif gynnwys

Walter Benjamin yn Berlin: Dinas, Llwyfan, Cofio

Mae'r prosiect hwn yn ymdrin â bywyd a gwaith Benjamin yn Berlin er mwyn gallu ymyrryd yn gritigol ac yn greadigol mewn trafodaethau trefol cyfredol.

Manylion

Mae cysylltiad agos rhwng bywyd a gwaith Walter Benjamin, y meddyliwr Almaenaidd-Iddewig, a dinas Berlin. Mae'r prosiect hwn yn ymdrin â bywyd Benjamin yn Berlin ac yn gwahodd pobl i ailddehongli ei waith.

Bydd ein tîm rhyngddisgyblaethol o ysgolheigion, curaduron, artistiaid, penseiri a dylunwyr sain, yn gosod olion ar draws y ddinas:

  • Ble roedd Benjamin yn byw ac yn gweithio?
  • Pa leoedd a ddisgrifiodd i angori ei ddiddordeb yn y ddinas?
  • Pa leoedd sy'n cael eu defnyddio nawr i'w gofio?
  • Pa leoedd heddiw sy'n enghreifftio ei waith?

Yn seiliedig ar ein topograffi o Benjamin yn Berlin, rydyn ni’n datblygu darnau sain polyffonig ac yn curadu digwyddiadau gwrando ar y cyd, yn gwahodd artistiaid i berfformio mewn lleoedd cyhoeddus, yn creu ystafell ddarllen i gynnal trafodaethau cyhoeddus a gwefan fydd yn archif agored i gynnal yr amryw o safbwyntiau cyfredol ar Benjamin.

Wrth wneud hynny, rydyn ni’n datblygu arferion coffa critigol, yn cyfrannu at ddadleuon trefol cyfredol, yn ymyrryd ym mheuoedd yr asgell dde ac yn herio’r ffordd y bydd bywyd trefol yn cael ei fasnacheiddio.

Amcanion

  • Dealltwriaeth uwch o Benjamin a'i fywyd a'i waith yn Berlin drwy ddadansoddiadau trylwyr, critigol a chreadigol yn seiliedig ar leoedd.
  • Dealltwriaeth gritigol o arferion cofio gwahanol, dadansoddi dinasoedd mewn ffyrdd gwrth-hegemonig ac annormadol, hanesion bob dydd, yr amodau presennol a’r dyfodol posibl.
  • Ymgysylltu’n gritigol â phrosesau trefol cyfoes drwy fywgraffiad a syniadau theorïwr.
  • Dysgu cyffredin mewn prosiect archifol ar y cyd, amgueddfa sy'n gyfrifol am y ffordd y bydd y cyhoedd yn cofio yn ogystal ag ymdrin â dulliau artistig mewn dinasoedd.

Y Tîm


Cefnogaeth

Cynhaliwyd yr ymchwil hon o ganlyniad i gefnogaeth y sefydliadau canlynol: