Ewch i’r prif gynnwys

Llywodraethau Dinas, Dyledion Dinasyddion i’r Sector Cyhoeddus ac arferion casglu dyledion

Mae'r prosiect hwn yn rhoi sylw i’r mater cyfoes o bwys o pam mae arferion casglu dyledion y llywodraeth leol wedi dod yn gyffredin, hynny yw, yr effeithiau y mae casglu dyledion yn eu cael ar ddinasyddion.

Manylion

Mae cyfran gynyddol o gyllidebau llywodraeth leol Lloegr yn deillio o gasglu 'Treth y Cyngor' ar eiddo domestig. Mewn ardaloedd trefol, mae dyledion dinasyddion ar gyfer talu treth y cyngor sy’n ddyledus ar gynnydd. Mae'n ofynnol i lywodraethau lleol gasglu ôl-ddyledion drwy achosion llys ac asiantaethau sy’n casglu dyledion.

Mae'r prosiect hwn yn ymchwilio i bwysigrwydd arferion casglu dyledion y llywodraeth leol a’u llywodraethu, i ba raddau y ceir cytundeb barn ar gasglu dyledion o fewn a thu hwnt i’r llywodraeth leol, a’r effaith y mae dyled a chasglu dyledion yn ei chael ar ddinasyddion. Ymgymerir â dadansoddiad o bob cyngor metropolitan a thair astudiaeth achos fanwl o dair ardal drefol.

Nodau

Mae cyllidebau llywodraethau leol yn Lloegr yn dibynnu fwyfwy ar dderbyniadau Treth y Cyngor, sef treth ar eiddo domestig i breswylwyr. Eto i gyd, mae dyledion sylweddol a gaiff dinasyddion ar gyfer talu treth y gyngor sy'n ddyledus yn datblygu yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw (Collard et al., 2019; Gray, 2020). Ym mis Mawrth 2023, £4.9bn oedd cyfanswm dyledion Treth y Cyngor fu’n ddyledus yn Lloegr, lle’r oedd dyledwyr yn wynebu costau llys a gweinyddol o £337m yn 2019-20 (DLHC, 2023).

Yn ôl Rheoliadau Treth y Cyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol fynd ar drywydd ôl-ddyledion y dinasyddion, a chânt eu harfogi i’w wneud. Yn y cyd-destun hwn, mae cynghorau'n defnyddio mecanweithiau ac asiantaethau sy’n casglu dyledion yn fwy er mwyn casglu ôl-ddyledion treth y dinasyddion.

Mae'r prosiect hwn yn ymchwilio i ffyrdd o gasglu dyledion a ddefnyddia’r llywodraeth leol, a’r effaith y mae dyled yn ei chael ar ddinasyddion sy’n byw mewn ardaloedd trefol yn Lloegr. Mae'r ail yn cael ei archwilio oherwydd y ceir ardaloedd lle gwelir dinasyddion â dyled sylweddol ac arferion cyffredin ac eang o ran casglu dyledion.

Cwestiynau ymchwil

Yn gyntaf oll, bydd y prosiect yn gofyn y canlynol: Pa mor bwysig yw gweithgareddau casglu dyledion i lywodraethau trefol a pham hynny yw’r sefyllfa?

Yn ail, bydd yn dadansoddi: Pa normau ac arferion llywodraethu cymdeithasol a gwleidyddol sy'n dylanwadu ar ddatblygu a gweithredu prosesau llywodraethu casglu dyledion y llywodraeth leol, a pha ffurfiau y maen nhw’n eu cymryd?

Yn drydydd, bydd yn gofyn: I ba raddau y mae arferion casglu dyledion trefol y wladwriaeth yn cael eu derbyn neu eu herio gan wleidyddion, swyddogion y wladwriaeth a sefydliadau anwladwriaethol, a sut y mae cydweithrediad neu feirniadaeth yn digwydd?

Yn olaf, ydy arferion casglu dyledion trefol y wladwriaeth yn effeithio'n negyddol ar hunanreoli a hunanbenderfyniaeth y dinasyddion dyledwyr, ac i ba raddau y maent yn cyfryngu ac yn herio arferion casglu dyledion?

Wedi'i ymgorffori yn y cwestiynau ymchwil hyn y mae’r angen am ymchwilio i ddaearyddiaeth y prosesau a'r trafodaethau rhwng dyledwr a chredydwr ei hun, a nodi i ba raddau y ceir gwahaniaethau neu debygrwydd rhwng ardaloedd trefol, lle gwelir amodau cyd-destunol gwahanol.

Pobl


Cefnogaeth

Roedd modd cynnal yr ymchwil hon oherwydd cefnogaeth y sefydliadau canlynol: