Modelu Dadansoddol a Dysgu Peiriannol ar gyfer Adeiladu'n Gynaliadwy yn yr Amgylchedd Adeiledig

Nod y prosiect hwn yw rhoi offer cyfrifiadurol arloesol i benseiri a pheirianwyr greu amgylchedd adeiledig mwy cynaliadwy.
Mae'n harneisio galluoedd dysgu dadansoddol a pheiriannol ein llyfrgell meddalwedd modelu ffynhonnell-agored am ddim, Topologic. Mae'r feddalwedd hon yn cefnogi archwilio dyluniad cyflym ac yn cynhyrchu modelau dadansoddol sy'n fwy effeithlon ac yn fwy cytûn â meddalwedd ddadansoddi na safonau cyfredol y diwydiant.
Nod y prosiect yw ehangu gwaith cyfredol gyda phartneriaid diwydiannol rhyngwladol i gyflymu mabwysiadu ac effaith Topologic trwy wella ei hymarferoldeb, creu dogfennaeth fwy cynhwysfawr, cynnal gweithdai, a chreu sylfaen budd cyhoeddus annibynnol ar gyfer diogelu ei chynaliadwyedd tymor hir.
Aelodau'r tîm
Corff ariannu
Cyfrif Sbarduno Effaith Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC)/Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Gyfunol (UKRI)