Mosgiau Ecolegol yn Gatalyddion ar gyfer Trawsnewid Ecolegol ar Gampysau Prifysgol Kuwait
Mae’r prosiect ‘Mosgiau Ecolegol yn Gatalyddion ar gyfer Trawsnewid Ecolegol ar Gampysau Prifysgol Kuwait’ (EMACET) yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol wrth iddyn nhw roi camau gweithredu ar waith, ac yn eu plith mae ôl-ffitio system ailgylchu dŵr golchi defodol sy’n effeithlon o ran ynni ym mosgiau Prifysgol Kuwait. Gwneir hyn er mwyn gwella’r amodau amgylcheddol dan do, a glasu’r fioamrywiaeth a microhinsoddau yn yr awyr agored. Yn y prosiect, maen nhw’n defnyddio dyfeisiau monitro clyfar er mwyn mesur yr amodau amgylcheddol a’r defnydd o ddŵr dan do. Caiff modelau efelychu cyfrifiadurol eu defnyddio i ragfynegi’r gwahanol senarios o insiwleiddio at ddibenion sicrhau’r perfformiad gorau a rhoi’r datrysiadau gorau, sy’n rhwydd i’w gosod, ar waith.
Prif Ymchwilydd
Cyd-ymchwilydd
Ariannwr
Y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, Llysgenhadaeth Kuwait ym Mhrydain