Gwneud Reading yn wydn o ran gorboethi ar gyfer poblogaeth agored i niwed
Nod y prosiect IAA hwn a ariennir gan EPSRC yw mesur y risg o orboethi trefol a pha mor agored i niwed yw Reading, y DU, a hynny drwy integreiddio data arsylwi’r ddaear â data torfol o orsafoedd tywydd dinasyddion a rhai swyddogol.
Mae gwres eithafol yn lladd yn dawel bach, yn enwedig mewn poblogaeth sy'n agored i niwed. Amlygodd 'Strategaeth Argyfwng Hinsawdd Reading 2020-25' fod Reading yn cael ei effeithio gan y newid yn yr hinsawdd, yn enwedig tywydd crasboeth, y baich anghymesur a roddir ar boblogaethau sy’n agored i niwed, a’r angen am drawsnewidiad cyfiawn i sero net a Reading sy’n wydn erbyn 2030.
Fodd bynnag, nid oes unrhyw astudiaeth feintiol i arwain Cyngor Bwrdeistref Reading gyda'i barodrwydd a'i wydnwch i'r risg o orboethi trefol. Wrth weithio'n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Reading, nod y prosiect hwn yw mapio ac asesu'r risg o orboethi trefol i ddiogelu'r boblogaeth sy’n agored i niwed a lleihau'r anghyfartaledd o ran gwres yn Reading.
Prif Ymchwilydd
Yr Athro Zhiwen Luo
Cadeirydd mewn Gwyddoniaeth Bensaernïol a Threfol
Cyd-ymchwilwyr
Ariannwr
EPSRC IAA