Ewch i’r prif gynnwys

Cynyddu'r risg o orboethi trefol gan fod pympiau gwres yn cael eu defnyddio ar gyfer oeri ac yn cyfrannu at ddatgarboneiddio

Mae'r prosiect hwn yn trin a thrafod y posibilrwydd o waethygu’r risgiau o orboethi trefol yn y DU oherwydd bod mwy o bympiau gwres yn cael eu defnyddio ar gyfer oeri.

Gallai newid i dechnoleg pwmp gwres ar gyfer oeri adeiladau, strategaeth allweddol yng ngweledigaeth sero net o ran carbon y DU ar gyfer 2050, ddwysau ardaloedd trefol sy'n profi tymereddau uwch a risgiau gorboethi yn anfwriadol. Gan y rhagwelir y bydd newid yn yr hinsawdd yn cynyddu'r galw am oeri adeiladau, ystyrir bod defnyddio pympiau gwres yn wrthfesur cynaliadwy. Fodd bynnag, gallai’r allbwn gwres o’r systemau hyn godi tymereddau awyr agored yn sylweddol. Gall hyn effeithio’n arbennig ar y rheini mewn ardaloedd trefol sy’n cael tywydd crasboeth ac sydd heb systemau aerdymheru.

Nod y prosiect yw meintioli a modelu effaith allyriadau gwres a achosir gan bympiau gwres ar ficrohinsoddau trefol. Mae'n asesu sut y gallai'r newidiadau hyn ddylanwadu ar amlygiad gwres dan do, yn enwedig mewn cymunedau poblog neu agored i niwed. Trwy ddatblygu model hinsawdd adeiladu-trefol soffistigedig sy'n integreiddio effeithiau thermol pympiau gwres, nod yr ymchwil yw nodi a dadansoddi patrymau o straen gwres sy'n cynyddu mewn lleoliadau trefol.

Prif Ymchwilydd

Picture of Zhiwen Luo

Yr Athro Zhiwen Luo

Cadeirydd mewn Gwyddoniaeth Bensaernïol a Threfol

Telephone
+44 29208 70463
Email
LuoZ18@caerdydd.ac.uk

Cynorthwy-ydd Ymchwil Ôl-ddoethurol

Dr XiaoXiong Xie