Ewch i’r prif gynnwys

Bwydo'r Fyddin Rufeinig ym Mhrydain: Rhwydweithiau cyflenwi anifeiliaid i’r cyffindiroedd

Bydd y prosiect uchelgeisiol, rhyngddisgyblaethol hwn yn gwella ein dealltwriaeth yn fawr o’r fyddin Rufeinig ym Mhrydain ac, yn bwysicaf oll, y strategaethau a sicrhaodd hanes llwyddiannus imperialaeth Rufeinig.

Manylion

Bydd yn gwneud hyn drwy gynhyrchu tystiolaeth newydd am y rhwydweithiau oedd yn cyflenwi anifeiliaid i’r cyffindiroedd a’r strategaethau economaidd a gefnogodd y fyddin. Bydd y prosiect yn fodel ar gyfer ymchwil integredig a rhyngddisgyblaethol ym Mhrydain a gweddill yr Ymerodraeth (gan gyfuno hanes ag archaeoleg a gwyddoniaeth, tra'n cysylltu ymchwil prifysgol â chasgliadau amgueddfeydd).

Mae’r prosiect yn amserol gan mai dim ond nawr y cawn gyfle i ddwyn ynghyd y casgliad helaeth o ddeunydd ffawna wedi’i haenu’n dda, gyda dulliau aml-isotop uwch a mapio biosffer cydraniad uchel ym Mhrydain. Bydd yr ymchwil nid yn unig yn gwneud cyfraniadau mawr i astudiaethau Rhufeinig, ond bydd hefyd yn gwella effaith hirdymor astudiaethau ar symudedd anifeiliaid a phobl.

Astudiaeth aml-isotop

Bydd y rhaglen ddadansoddol uchelgeisiol hon, yr astudiaeth aml-isotop fwyaf erioed mewn archaeoleg, yn nodi newid sylweddol wrth ymchwilio i symudiad trwy ddadansoddi isotopau.

Bydd yn lasbrint ar gyfer archwilio masnach, gofyn am nwyddau a gwasanaethau, symudedd a chysylltedd ar draws ystod ddaearyddol a chronolegol eang; bydd y set ddata yn darparu adnodd cymharol amhrisiadwy a bydd y data planhigion yn gwella cydraniad mapio ar gyfer astudiaethau yn y dyfodol yn y meysydd hyn.

Bydd buddion etifeddol pellach mewn gwyddoniaeth archeolegol ac astudiaethau Rhufeinig i’w gweld wrth i ni gynnig dilyniant gyrfa i dri academydd ar ddechrau eu gyrfa.

Ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Leverhulme

Prif Ymchwilydd

Picture of Richard Madgwick

Yr Athro Richard Madgwick

Athro Gwyddoniaeth Archaeolegol

Telephone
+44 29208 74239
Email
MadgwickRD3@caerdydd.ac.uk