Sŵarchaeoleg yng Nghreta Hanesyddol: Ymagwedd Aml-radd at Anifeiliaid yng Ngroeg yr Henfyd - ZOOCRETE
Mae’r prosiect ZOOCRETE yn mabwysiadu dull rhyngddisgyblaethol er mwyn treiddio i ddatblygiad a hydwythder y gwladwriaethau dinas yng Nghreta hynafol, a hynny drwy lens gwledda cymunedol a chynhyrchu bwyd.
Manylion
Mae’r ymchwil hon yn canolbwyntio ar ddulliau dadansoddi ysgerbydol ac aml-isotop (carbon, nitrogen, ocsigen a strontiwm) ar olion ffawna a ddarganfuwyd o fewn adeiladau dinesig ar gyfer gwledda a phreswylfeydd mewn pedwar o aneddiadau ar ynys Creta o'r mileniwm cyntaf COG.
Caiff y setiau data archeolegol newydd hyn eu cymharu â dadansoddiad meintiol o ffynonellau testunol Groeg yr Henfyd sy'n disgrifio cynhyrchu a bwyta anifeiliaid. Drwy hynny, bydd y dull aml-radd hwn yn canolbwyntio ar y ffyrdd amrywiol yr oedd unigolion yn bwyta anifeiliaid yng nghyd-destunau gwledda, ac yna’n edrych yn ehangach ar ddata mawr yn seiliedig ar anifeiliaid mewn archaeoleg a thestunau Groegaidd.
Bydd y dadansoddi arloesol sy’n rhan o’r prosiect hwn yn arwain at greu naratifau newydd ynghylch y ffyrdd y cafodd anifeiliaid eu paratoi a’u bwyta yn ystod gwleddoedd cymunedol hynafol a fydd yn gwella ein dealltwriaeth o hydwythder y gwladwriaethau dinas hynafol.
Cymrodoriaeth
Mae'r Gymrodoriaeth yn cynnig y cyfle i Dr Dibble gael hyfforddiant deallusol a thechnegol uwch ym maes sŵarchaeoleg isotop, sef maes pwnc sy'n dod i'r amlwg a fydd yn ei roi ar flaen y gad o ran dadansoddi rhyngddisgyblaethol gan gyfuno dulliau gwyddonol ag ymchwiliad dyneiddiol ym meysydd archaeoleg amgylcheddol a gwyddoniaeth archeolegol.
Bydd creu rhwydweithiau rhyngddisgyblaethol yn ogystal â lledaenu a chyfathrebu'r canlyniadau i'r gymuned wyddonol a'r cyhoedd yn ehangach yn cynyddu ein dealltwriaeth o'r berthynas rhwng cynhyrchu bwyd a hunaniaeth ddiwylliannol, ac yn fwy eang bydd yn gweithredu’n fodel ar gyfer integreiddio setiau data testunol, archeolegol a biomoleciwlaidd mewn modd sy’n cael ei yrru gan broblem.
Y cyfryngau cymdeithasol
Bydd strategaeth newydd Dr Dibble i estyn allan drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn lledaenu'r canlyniadau i'r cyhoedd yn ehangach, gan ddangos pwysigrwydd y gorffennol yn y byd modern sydd ohoni, yn benodol yng nghyd-destun amaeth-fugeilyddiaeth gynaliadwy.
Ariennir gan Gomisiwn y Cymunedau Ewropeaidd
Prif ymchwilwyr
Yr Athro Richard Madgwick
Athro Gwyddoniaeth Archaeolegol