Rhwydweithiau gwledda a gwydnwch ar ddiwedd Oes Efydd Prydain
Mae archwilio sut mae cymunedau'n ymateb i argyfwng economaidd a hinsoddol yn hollbwysig er mwyn gwella dealltwriaeth o wydnwch yn y gorffennol a'r presennol.
Manylion
Bydd y prosiect hwn yn trin a thrafod ymatebion i hinsawdd a masnach sy'n dirywio ar ddiwedd yr Oes Efydd ym Mhrydain. Rhoddir pwyslais amlwg ar y rhwydweithiau cymdeithasol ac economaidd newydd a ddatblygodd, a’u rôl o ran galluogi cymunedau i wrthsefyll cythrwfl. Byddwn yn gwneud hyn drwy ddefnyddio cyfres newydd o ddulliau gwyddonol i ddadansoddi'r safleoedd cyfoethog iawn a elwir yn domenni, ond sydd heb eu hastudio'n ddigonol eto.
Tua 800CC, dioddefodd Ewrop gynnwrf mawr wrth i'r hinsawdd ac economïau ddirywio, ac wrth i efydd golli gwerth yn sydyn. Yn yr un modd ag argyfwng economaidd yr 21ain ganrif, achosodd y ffyniant a'r cwymp yn y mileniwm cyntaf cyn Crist ansefydlogrwydd mawr. Yn ne Prydain, ni wnaeth cymdeithas symud i ganolbwyntio ar haearn, ond yn hytrach i ddwysáu gweithgareddau amaethyddol a gwledda ar raddfa fawr; bu ‘Oes Wledda’ cyn yr Oes Haearn.
Gweddillion gwledda
Creodd gweddillion y gwleddoedd hyn rai o'r safleoedd archeolegol mwyaf syfrdanol a ddarganfuwyd erioed. Mae'r 'tomenni' hyn yn cynrychioli'r adnodd cyfoethocaf o ddeunydd o gynhanes Prydain. O ran maint, mae rhai ohonynt yn fwy na nifer o gaeau pêl-droed gyda’i gilydd ac maent wedi cynhyrchu cannoedd o filoedd o arteffactau. Mae'r rhain yn cynnig yr ateb i ddeall newid economaidd-gymdeithasol yn ystod y cyfnod hwn. Er gwaethaf yr adnodd archeolegol cyfoethog a phwysigrwydd y cyfnod hwn o drawsnewid wrth lywio cymdeithas am ganrifoedd, ychydig iawn a wyddom o hyd.
Y ffordd y daeth rhwydwaith y fasnach efydd i ben oedd y newid pwysicaf gan mai’r fasnach hon oedd wedi rheoli symudiad pobl, syniadau ac arteffactau ers canrifoedd. Ychydig iawn a wyddom am y rhwydweithiau cymdeithasol ac economaidd newydd a ddaeth i'r amlwg. Roedd y rhain yn canolbwyntio ar y gwleddoedd enfawr hyn, gan wneud cymdeithas yn wydn ar adeg ansefydlog gan lywio’r cysylltiadau o ran pŵer a rhyngweithio cymunedol hyd at goncwest y Rhufeiniaid. Maent yn allweddol er mwyn deall y cyfnod trosiannol hwn yn ogystal â chynhanes diweddarach Prydain yn fwy cyffredinol.
Datblygiadau ymchwil
Mae datblygiadau ymchwil newydd yn golygu mai nawr yw’r amser i fynd i'r afael â'r problemau archeolegol hyn. Mae cloddiadau diweddar wedi cynnig cyfoeth o ddeunydd i fynd i'r afael â'r materion hyn. Ar ben hynny, mae datblygiadau gwyddonol yn golygu ein bod bellach yn gallu sefydlu patrymau symudiad dynol ac anifeiliaid yn fanylach na’r hyn oedd yn bosibl yn flaenorol.
Yn olaf, mae corff mawr o ddeunydd a chyfres o ddulliau gwyddonol sy’n gallu ail-greu’r newid a fu mewn cymdeithas yn ne Prydain ac edrych ar sut y parhaodd yn wydn ar adeg o ddirywiad economaidd a hinsoddol.
Ffocws y prosiect
Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar chwe thomen sy'n dyddio i’r cyfnod rhwng yr Oes Haearn o'r Oes Efydd (c. 800BC-400BC) mewn dau ranbarth:
Wiltshire a Dyffryn Tafwys. Yr ardaloedd hyn oedd canolbwynt gweithgareddau yn ystod y cyfnod hwn gan fod casgliadau o ddeunydd cyfoethog yn dangos bod digwyddiadau gwledda enfawr wedi’u cynnal yno. Roedd y gwleddoedd hyn yng elfen ganolog o ddeinameg cymdeithas oedd yn newid. Roeddent yn cynnig canolbwynt ar gyfer rhyngweithio cymunedol, yn ogystal â meithrin a chyfnerthu cynghreiriau newydd. Roeddent hefyd yn ganolbwynt i arferion economaidd newydd ac yn ganolfannau ar gyfer dwysáu cynnyrch amaethyddol a’i fasnachu.
Felly, gan ddefnyddio cyfres o dechnegau bioarcheolegol, bydd y prosiect yn archwilio'r rhwydweithiau cymdeithasol ac economaidd newydd a ddatblygodd. Yn ogystal, drwy ddefnyddio modelau damcaniaethol, bydd yn edrych ar sut y gwnaethant greu cymunedau gwydn yn wyneb adfyd.
Bydd dadansoddiad aml-isotop (strontiwm, sylffwr, carbon, nitrogen ac ocsigen) yn datgelu o ble y daeth anifeiliaid a bodau dynol, a sut y manteisiwyd i’r eithaf ar gynhyrchu amaethyddol trwy wahanol arferion hwsmonaeth a defnyddio’r dirwedd. Bydd hyn yn ail-greu'r rhwydweithiau rhyng-gymunedol newydd a’r modd y trefnwyd yr economi a dulliau cynhyrchu amaethyddol, gan ddatgelu'r strategaethau a wnaeth y cymunedau'n wydn.
Astudiaeth achos
Bydd yn rhoi astudiaeth achos allweddol am ymatebion i gwymp economaidd-gymdeithasol. Bydd hefyd yn trawsnewid dealltwriaeth o sut gwnaeth y newid ar ddiwedd yr Oes Efydd lywio cymdeithas yn ne Prydain am ganrifoedd.
Ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau
Prif ymchwilydd
Yr Athro Richard Madgwick
Darllenydd mewn Gwyddoniaeth Archaeolegol