Ewch i’r prif gynnwys

Dyddio’r Meirw: Chwyldroi cronoleg a chyd-destun yn Necropolis Anifeiliaid Cysegredig Saqqara

Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol a bydd yn dwyn ynghyd ystod amrywiol o ddyddio a thystiolaeth arall, a thrwy hynny lenwi bwlch yn ein dealltwriaeth o ddatblygiad y cyltiau anifeiliaid a thrawsnewid dealltwriaeth ohonynt fel agwedd hanfodol ond heb ei hymchwilio hyd yma o gymdeithas ac economi hynafol.

Manylion

Am y tro cyntaf bydd prosiect unigol yn integreiddio data a gasglwyd dros nifer o flynyddoedd gan y rhai sydd wedi gweithio yn, neu wedi ymweld â, yr hyn a elwir bellach yn Necropolis Anifeiliaid Cysegredig yn Saqqara. Trwy integreiddio'r dystiolaeth gronolegol o archwilio'r safle yn y gorffennol, gan gynnwys deunydd a gyhoeddwyd ac archifwyd gan y PI a dyddio radiocarbon wedi'i dargedu a'r defnydd o ddadansoddi ystadegol Bayesaidd datblygir cronoleg fanylach a dibynadwy ar gyfer cyltiau anifeiliaid.

Bydd y fethodoleg newydd a ddatblygwyd ar gael i eraill ei defnyddio fel bod gennym ddealltwriaeth llawer gwell a mwy cadarn yn y dyfodol o ddatblygiad necropoli anifeiliaid yn yr Aifft. Bydd y gronoleg newydd hon yn chwyldroi ein dealltwriaeth o'r perthnasoedd rhwng y claddgelloedd/cyltiau yn Saqqara ac yn caniatáu dealltwriaeth fwy cyflawn o'u rôl o fewn cymdeithas.

Ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Leverhulme.

Prif ymchwilydd

Picture of Paul Nicholson

Yr Athro Paul Nicholson

Athro Emeritws

Telephone
+44 29208 74582
Email
NicholsonPT@caerdydd.ac.uk