Treial cymorth ariannol ychwanegol i bobl sydd â phrofiad o ddigartrefedd
Nod yr Hapdreial Rheoledig hwn yw profi effeithiolrwydd cymorth ariannol ychwanegol (trosglwyddiad arian parod uniongyrchol) ar gyfer pobl sy'n ddigartref.
Trosglwyddiad arian parod uniongyrchol
Mae rhoi arian i bobl sy’n profi caledi, a elwir yn drosglwyddiad arian parod uniongyrchol, yn cynnwys sylfaen dystiolaeth gref o werthusiadau ledled y byd fel llwybr effeithiol allan o dlodi. Mae'n rhoi hyblygrwydd i bobl wneud eu dewisiadau eu hunain ynghylch y ffordd orau o wella eu bywydau, yn ôl astudiaethau. Ac eto, nid oes llawer o raglenni wedi profi effaith rhoi grantiau personol i bobl sy’n profi digartrefedd.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymuno â grŵp o sefydliadau ac unigolion o'r un anian i gymryd rhan yn rhaglen gyntaf y DU o drosglwyddo arian i leddfu digartrefedd. Byddwn yn gofyn i 180 o bobl sydd â hanes diweddar o ddigartrefedd ar y stryd i gymryd rhan mewn tair dinas: Manceinion, Glasgow ac Abertawe.
Bydd hanner ohonynt, a ddewisir gan loteri, yn cael grant personol fel un cyfandaliad. Bydd y gweddill yn parhau i dderbyn y cymorth sydd ganddynt yn flaenorol ond ni fyddant yn cael grant. Bydd yr hapdreial rheoledig hwn sy’n torri tir newydd yn sicrhau ein bod yn deall y gwahaniaeth y mae arian yn ei wneud, neu beidio.
Nodau
Y prif gwestiynau ymchwil ar gyfer y gwerthusiad effaith yw:
- Pa effaith y mae derbyn cymorth ariannol ychwanegol mewn cyfandaliad arian parod yn ei gael ar sicrwydd tai cyfranogwyr?
- Pa effaith y mae derbyn cymorth ariannol ychwanegol mewn cyfandaliad arian parod yn ei gael ar sicrwydd ariannol cyfranogwyr?
Mae’r cwestiynau ymchwil eilaidd sy’n ymwneud ag asesu effaith cymorth ariannol ychwanegol fel a ganlyn:
- Pa effaith y mae derbyn cymorth ariannol ychwanegol mewn cyfandaliad arian parod yn ei gael ar gysylltedd cymdeithasol cyfranogwyr?
- Pa effaith y mae derbyn cymorth ariannol ychwanegol mewn cyfandaliad arian parod yn ei gael ar les cyfranogwyr?
- Pa effaith y mae derbyn cymorth ariannol ychwanegol mewn cyfandaliad arian parod yn ei gael ar lefel fynediad i wasanaethau cyhoeddus cyfranogwyr?
- Pa effaith y mae derbyn cymorth ariannol ychwanegol mewn cyfandaliad arian parod yn ei gael ar gyswllt cyfranogwyr â'r system gyfiawnder?
Cyllid a chefnogaeth gan:
- Canolfan Effaith Ddigartrefedd
- Coleg y Brenin, Llundain
- Prifysgol Heriot-Watt
- The Wallich
- Simon Community Scotland
- Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf ac Elusen Maer Manceinion Fwyaf
- Elusen St Martin-in-the-Fields