Ewch i’r prif gynnwys

Creu Canol Dinasoedd Ffyniannus ar ôl y Pandemig drwy Ailbwrpasu Mannau Manwerthu

Nod y prosiect hwn yw rhannu gwybodaeth a phrofiad o ymarfer ac ymchwil ar gynllunio ac adfywio mannau manwerthu yng nghanol dinasoedd yn y DU a De Corea er mwyn nodi heriau'r dyfodol a datblygu datrysiadau.

Ceir pryder cynyddol nad yw mannau manwerthu yn cael eu defnyddio yng nghanol dinasoedd y DU a De Corea. Mae ymchwil yn dangos bod gan lawer o ddinasoedd mewn economïau datblygedig ormod o fannau manwerthu a dim digon o alw gan fanwerthwyr. Mae hyn wedi arwain at gyfraddau uchel o fannau manwerthu gwag, yn enwedig yng nghanol dinasoedd sydd wedi ei chael yn anodd denu digon o ymwelwyr i barhau'n gynaliadwy yn economaidd dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae twf e-fasnach a siopa ar-lein, a gyflymodd fwy fyth yn ystod pandemig COVID-19, wedi lleihau'r angen i siopwyr ymweld â chanolfannau manwerthu ffisegol. Dangosodd data cyn y pandemig fod 24% o gyfanswm gwerthiant manwerthu yn Ne Corea a 19% yn y DU wedi'i gwblhau ar-lein (Savills, 2020), sy'n awgrymu bod sefyllfa mannau manwerthu diangen yn debygol o waethygu.

Mannau manwerthu diangen

Mae mannau manwerthu diangen yn bryder mawr i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y DU a De Corea. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU bapur polisi â'r teitl 'Build Back Better High Streets' (15 Gorffennaf 2021) sy'n egluro gweledigaeth y llywodraeth ar gyfer dyfodol y stryd fawr. Yn flaenorol, daeth adolygiad annibynnol o strydoedd mawr y DU i'r casgliad bod “y stryd fawr wedi cyrraedd argyfwng” (Portas, 2011).

Yn yr un modd, cyflwynodd y llywodraeth ganolog yn Ne Corea brosiect Bargen Newydd Adfywio Trefol yn 2017 i adfywio canol trefi oedd yn dirywio, ac yna brosiect Bargen Newydd Werdd yn 2021 i gyfrif am effeithiau pandemig COVID-19. Er gwaethaf yr ymdrechion hyn yn y ddwy wlad, mae cwestiynau allweddol yn aros heb eu hateb: Sut y dylid ail-bwrpasu’r mannau pwysig hyn yng nghanol dinasoedd? Beth yw rôl cynllunwyr a dylunwyr trefol wrth ail-bwrpasu’r mannau hyn? Sut y dylid cynnwys cymunedau lleol wrth drawsnewid canol dinasoedd? A sut y dylid ariannu prosiectau ailbwrpasu manwerthu?

Ailbwrpasu mannau manwerthu

Mae'r duedd gynyddol o fannau manwerthu gwag a diangen yng nghanol dinasoedd yn golygu bod angen edrych ar frys ar ailbwrpasu mannau manwerthu yng nghanol dinasoedd. Ailbwrpasu yw'r dull hanfodol o ail-greu, ailgynllunio ac adfywio canol dinasoedd yn y byd fel y mae ar ôl y pandemig. Nod y prosiect hwn felly yw rhannu gwybodaeth a phrofiad o ymarfer ac ymchwil ar gynllunio ac adfywio mannau manwerthu yng nghanol dinasoedd yn y DU a De Corea er mwyn canfod yr heriau presennol ac yn y dyfodol a datblygu datrysiadau.

Drwy gyfres o weithdai, ymweliadau safle a chydweithrediadau, byddwn yn datblygu ein dealltwriaeth o rôl canol dinasoedd sy'n esblygu yn y byd ar ôl y pandemig. Byddwn yn ystyried ffyrdd creadigol o greu mannau ymgynnull cymunedol sy'n seiliedig ar weithgareddau lle mae manwerthu yn rhan lai o gymysgedd mwy amrywiol a chynaliadwy o ddibenion masnachol a hamdden, a lle mae mannau gwyrdd, hamdden, y celfyddydau a diwylliant, a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu cyfuno â thai i greu man sy'n seiliedig ar ryngweithio cymdeithasol a chymunedol.

Nodau

Nod y prosiect hwn yw:

  1. Rhannu arbenigedd rhyngddisgyblaethol y DU a De Corea ar gynllunio ac adfywio mannau manwerthu yng nghanol dinasoedd.
  2. Gwerthuso ymdrechion cyfredol i ailddatblygu canolfannau manwerthu gwag yn Ne Corea a'r DU, ac ystyried cymhwysedd polisi, dylunio a throsglwyddo diwylliannol rhwng cyd-destunau.
  3. Diffinio'r heriau, y cyfleoedd a'r bylchau yn y dyfodol mewn gwybodaeth sy'n gysylltiedig ag ailbwrpasu mannau manwerthu yng nghanol dinasoedd ar ôl y pandemig yn Ne Corea a'r DU.
  4. Datblygu rhwydwaith rhyngddisgyblaethol newydd o ymchwilwyr ar y cyd â rhwydwaith rhyngwladol ehangach o ymarferwyr sy'n canolbwyntio ar sefydlu agenda ymchwil i'r dyfodol ar drawsnewid canol dinasoedd ar ôl y pandemig.

Gan dynnu ar amrywiaeth o wybodaeth ddisgyblaethol a chyd-destunol, byddwn yn ceisio deall yr heriau sy'n wynebu canol dinasoedd yn ogystal â chanfod datrysiadau. Bydd y prosiect yn cyflawni hyn drwy ddod ag arbenigedd ynghyd ar draws ystod o ddisgyblaethau sy'n ymwneud â'r amgylchedd adeiledig, gan gynnwys cynllunio trefol, eiddo tiriog, economeg, daearyddiaeth a dylunio trefol.


Tîm y prosiect

Prif Ymchwilydd

alt

Dr Sina Shahab

Senior Lecturer in Planning and Land Policy

Tîm


Cefnogaeth

Roedd modd cynnal yr ymchwil hon o ganlyniad i gefnogaeth y sefydliadau canlynol: