Dysgu o’r Gorffennol: y turath a thrawsnewid
Nod y prosiect tair blynedd hwn yw archwilio ysgolheictod Islamaidd yn ystod cyfnod hanesyddol pan fu ymdrech deallusol a gwyddonol eithriadol. Cyfeirir at y cyfnod yn gyffredinol fel yr 'Oes Aur' Islamaidd.
Byddwn yn canolbwyntio ar fywgraffiad a chymhelliant yr ysgolheigion sydd â’r cysylltiad agosaf â'r cyfnod hanesyddol hwn. Fe wnaeth yr ysgolheigion hyn adlewyrchu a llunio agwedd addysgol ac athronyddol y gellir ei ddisgrifio fel dull oedd yn edrych tuag allan, cosmopolitaidd, rhyngddisgyblaethol, cyfannol, ymroddedig i lewyrch dynol ac yn ceisio gwybodaeth fel ffurf ar 'addoliad'.
O ganlyniad i’r agwedd epistemig hon oedd yn agor i bob math o wybodaeth, crëwyd traddodiad a oedd yn ddeallusol chwilfrydig, yn parchu traddodiadau eraill, ac yn cael ei yrru gan werthoedd gwareiddiad a goddefgarwch. Yn seiliedig ar ein hymchwil am gymhellion a chyd-destun yr ysgolheigion hyn, byddwn yn ceisio dadansoddi ac amlygu egwyddorion o ran sut mae Islam yn galluogi ffyniant dynol ac ysgolheigaidd.
Y nod yw dod â rhai o egwyddorion ac ystyron diffiniol addysg Islamaidd i’r amlwg, gan ail-lunio dulliau o ymdrin ag addysg fodern o bosibl.
Tîm y prosiect
Yr Athro Sophie Gilliat-Ray
Athro mewn Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddol, Pennaeth Canolfan Islam y DU
Dr Eyad Abuali
Cydymaith Ymchwil mewn Hanes Islamaidd a Gwareiddiad
Bwrdd Cynghori
Cefnogir y prosiect gan amrywiaeth o ymgynghorwyr allanol.
Enw | Sefydliad |
---|---|
Dzenita Karic | Prifysgol Amsterdam |
Nur Sobers-Khan | Prifysgol Caerwysg |
Liana Saif | Prifysgol Amsterdam |
Pieter Coppens | Prifysgol Rydd Amsterdam |
Omar Anchassi | Prifysgol Bern |
Simon Leese | Prifysgol Amsterdam |
Adam Bursi | Prifysgol Cornell |
Dr Fella Lahmar | Y Brifysgol Agored |
Arnold Mol | Prifysgol Leiden |
Dr Fozia Bora | Prifysgol Leeds |
Aslisho Qurboniev | Prifysgol Aga Khan |
Dr Wisam Abdul-Jabbar | Prifysgol Hamad Bin Khalifa |
Dr Nadeem Memon | Prifysgol De Awstralia |
Dr Justin Stearns | NYU Abu Dhabi |
Dr Asad Q Ahmed | Prifysgol California, Berkeley |
Dr Sonja Brentjes | Y Sefydliad Max-Planck ar gyfer Hanes Gwyddoniaeth |
Dr Farah Ahmed | Prifysgol Caergrawnt |
Dr Hadiza Kere Abdulrahman | Prifysgol Lincoln |
Dr Ebrahim Moosa | Prifysgol Notre Dame |
Dr Recep Senturk | Prifysgol Hamad Bin Khalifa |
Cymerwch gipolwg ar ein podlediad fidio “Book Chat” ar YouTube.