Ewch i’r prif gynnwys

Trawsnewidiol: Tröedigion ym Mywyd Mwslimaidd Prydain

Logos

Rydyn ni'n cynnal astudiaeth newydd o brofiadau tröedigion Mwslimaidd ym Mhrydain. Nod y prosiect tair blynedd yw trafod os, a sut, mae tröedigion yn chwarae rôl yn llunio, neu drawsnewid, cymunedau Mwslimaidd ym Mhrydain drwy ymarfer arweinyddiaeth a meddwl am wneud newid mewn bywyd cyhoeddus a chrefyddol.

Gan gydweithio â'r  Convert Muslim Foundation., byddwn ni’n edrych ar sut mae tröedigion yn dangos arweinyddiaeth mewn tri maes penodol: y byd academaidd, arweinyddiaeth grefyddol, a'r sectorau diwylliannol a chreadigol.  Rydyn ni am ddysgu ymhle, a sut, mae tröedigion yn cyfrannu at ddatblygu bywyd mewn cymunedau Mwslimaidd cyfoes ym Mhrydain, neu'n eu harwain.

Tystiolaeth

Mae diddordeb academaidd mewn pobl Brydeinig sy'n cael tröedigaeth at Islam wedi bod yn nodwedd o Astudiaethau Mwslimaidd dros yr ugain mlynedd ddiwethaf. Mae’r ymchwil wedi canolbwyntio'n bennaf ar hanesion am dröedigaeth, neu 'naratifau tröedigaeth' (Bryce 2010, Roald 2012, Awan 2011). Bu ffocws academaidd eithaf statig hefyd ar brofiadau o ymyleiddio ymhlith tröedigion yng nghymdeithas Prydain a chymunedau Mwslimaidd Prydain (Moosavi 2015, Amer a Howarth 2017). Yn gyffredinol, mae ymchwil wedi tueddu i ganolbwyntio ar brosesau a phrofiadau o dröedigaeth ac ar y gwendidau a'r anfanteision a wynebir gan y rheini sy'n cael tröedigaeth.

Mae corff llai o ymchwil gysylltiedig sy'n edrych ar fywydau tröedigion beth amser ar ôl y dröedigaeth ac nad yw'n portreadu tröedigion yn nhermau'r anfanteision y gallan nhw eu hwynebu yn unig. Mae rhai ymchwilwyr wedi awgrymu y gall tröedigion gynorthwyo gydag integreiddio cymunedau Mwslimaidd mewn cyd-destunau lleiafrifol (Jawad 2012, Sealy 2017). O'r safbwynt hwn, mae gan dröedigion y potensial i weithredu fel 'adeiladwyr pontydd' rhwng Mwslimiaid a chymdeithas yn ehangach drwy dynnu ar eu hadnoddau cymdeithasol a diwylliannol penodol (Sealy 2017).

Ein nod yn yr astudiaeth hon yw cyfrannu at y maes ymchwil o amgylch tröedigion Mwslimaidd mewn cyd-destunau Gorllewinol sy'n canolbwyntio ar eu bywydau ar ôl eu tröedigaeth. Rydyn ni'n ceisio ystyried yn fanwl y ffyrdd y mae tröedigion wedi setlo a symud ymlaen yn eu hunaniaethau cymhleth a chroestoriadol. Byddwn ni’n ystyried os, a sut, mae tröedigion Mwslimaidd mewn swyddi arweiniol a gwneud newid, o amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol ac ethnig, yn trawsnewid arferion a normau yng nghymunedau Mwslimaidd Prydain, a chanfyddiadau o'r cymunedau hynny yng nghymdeithas Prydain yn ehangach.

Nodau'r ymchwil

Nodau'r astudiaeth hon yw:

Ymchwilio i ba adnoddau (cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a chrefyddol) mae tröedigion Mwslimaidd yn eu defnyddio i gyrraedd rolau arweiniol neu i wneud newid.

Trin a thrafod sut, ac ym mha ffyrdd, y mae tröedigion wedi cyfrannu’n unigryw at gymunedau Mwslimaidd ym Mhrydain, a’r gymdeithas ehangach, yn eu rolau arweiniol a gwneud newid.

Deall beth mae profiadau tröedigion Mwslimiaid o fod yn arweinwyr a gwneuthurwyr newid yn gallu datgelu inni o ran y berthynas gymhleth rhwng 'hil', ethnigrwydd a chrefydd ym Mhrydain gyfoes.

Rhannu’r cipolygon hyn er mwyn llywio a gwella’r gydnabyddiaeth o gyfraniadau tröedigion Mwslimiaid at well dealltwriaeth o Islam ym Mhrydain.

Dulliau ymchwil

Rydyn ni wedi defnyddio dulliau ymchwil ansoddol i ddeall sut mae tröedigion Mwslimaidd yn dangos arweinyddiaeth a gwneud newidiadau yn eu meysydd perthynol ac mewn cymunedau Mwslimaidd.

Gwnaethon ni gynnal 30 o gyfweliadau manwl gyda thröedigion Mwslimaidd yn gweithio yn y meysydd canlynol: y byd academaidd, arweinyddiaeth grefyddol, a'r sectorau diwylliannol a chreadigol. Daeth y rhai oedd yn cael eu cyfweld o amrywiaeth o gefndiroedd ethnig i adlewyrchu’r amrywiaeth gynyddol ym mhoblogaeth Mwslimaidd troëdig Prydain.

Trwy'r cyfweliadau hyn, ein gobaith yw datblygu dealltwriaeth gyfoethog a chynnil o brofiadau a chyflawniadau trowyr Mwslimaidd mewn swyddi arweiniol a gwneud newidiadau.

Dull cydweithredol

O gynllunio'r ymchwil hyd at ddadansoddi'r canlyniadau a lledaenu canfyddiadau'r ymchwil, mae’r prosiect yn cael ei lywio drwyddi draw gan ein gwaith cydweithredol gyda'n partner ymchwil, y Convert Muslim Foundation. Ffocws yr astudiaeth yw cynnal ymchwil gyda thröedigion Mwslimaidd.

Mae’r prosiect wedi cael ei arwain gan grŵp llywio gydag aelodau sy'n Fwslimiaid a rhai nad ydyn nhw’n Fwslimiaid sydd â gwybodaeth arbenigol am dröedigion Mwslimaidd, boed yn brofiad byw a/neu'n brofiad proffesiynol. Mae’r grŵp llywio wedi cyfarfod yn flynyddol dros dair blynedd y prosiect er mwyn rhannu eu harbenigedd.

Bydd Convert Muslim Foundation yn datblygu rhwydwaith ehangach o sefydliadau a grwpiau sy'n cynrychioli ac yn cefnogi Mwslimiaid sy'n dröedigion.  Byddwn ni'n trafod ffyrdd y galwch chi gynnal y rhwydwaith y tu hwnt i oes yr astudiaeth er budd cymunedau tröedigion.

Pwy fydd ar eu helw?

Caiff canfyddiadau'r prosiect eu rhannu mewn nifer o ffyrdd, â'r nod o greu effeithiau cadarnhaol i gymunedau Mwslimaidd sy'n dröedigion a rhai nad ydyn nhw wedi cael tröedigaeth, gan gynnwys:

  • Cyfrannu at symud diddordeb academaidd mewn tröedigion Mwslimaidd drwy fynd y tu hwnt i naratifau tröedigaeth, i brofiadau unigolion a chymunedau o dröedigion hirdymor. Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy erthyglau mewn cyfnodolion academaidd a chyflwyniadau cynhadledd.
  • Symud naratifau cyhoeddus am dröedigion Mwslimaidd (megis y gynrychiolaeth yn y cyfryngau) i ffwrdd o straeon negyddol, amheus, neu 'ryfedd' i ddealltwriaeth fwy cynnil a manwl o'u profiadau. Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy ledaenu canfyddiadau trwy ddatganiadau i'r wasg a chynyrchiadau cyfryngau cymdeithasol.
  • Lledaenu difyr a rhyngweithiol drwy weithdai i gymunedau tröedigion Mwslimaidd Prydain, er mwyn cydnabod a dathlu cyflawniadau a chynnig modelau rôl ac astudiaethau achos cadarnhaol.
  • Lledaenu wyneb yn wyneb i gymunedau a sefydliadau Mwslimaidd Prydain, er enghraifft mosgiau a sefydliadau cynrychioliadol eraill, er mwyn gwella dealltwriaeth o dröedigion Mwslimaidd a hyrwyddo gwell ymgysylltu, rhyngweithio a chefnogaeth iddyn nhw.
  • Dylanwadu ar bolisi drwy gyflwyno canfyddiadau i adrannau'r llywodraeth i wella eu dealltwriaeth o unigolion a chymunedau o dröedigion Mwslimaidd, drwy sesiynau briffio polisi a/neu gyflwyno canfyddiadau ymchwil.
Aelodau’r gynulleidfa yn y gynhadledd Muslim Converts in Britain and Beyond: Transitions and Transformations, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd ar 9 Ionawr 2025 mewn cydweithrediad â Rhwydwaith Ymchwil Mwslimiaid ym Mhrydain.
Aelodau’r gynulleidfa yn y gynhadledd Muslim Converts in Britain and Beyond: Transitions and Transformations, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd ar 9 Ionawr 2025 mewn cydweithrediad â Rhwydwaith Ymchwil Mwslimiaid ym Mhrydain.

Y tîm ymchwil

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â ni.

Cyfarwyddwr y Prosiect

Picture of Sophie Gilliat-Ray

Yr Athro Sophie Gilliat-Ray

Athro mewn Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddol, Pennaeth Canolfan Islam y DU

Telephone
+44 29225 10830
Email
Gilliat-RayS@caerdydd.ac.uk

Cydymaith Ymchwil

Picture of Asma Khan

Dr Asma Khan

Cydymaith Ymchwil mewn Astudiaethau Mwslimaidd Prydeinig

Telephone
+44 29208 75069
Email
asmakhan@caerdydd.ac.uk

Convert Muslim Foundation

Aelod o'r Bwrdd Rheoli