Islam yng Nghymru
Mae Mwslimiaid wedi bod yn rhan o wead Cymru ers dros ganrif, ac mae cysylltiadau hanesyddol dwfn rhwng Islam a Chymru.
Cefndir
Nod y prosiect yw ceisio dogfennu ac adrodd "stori" Islam yng Nghymru a gwneud hanes Mwslimiaid yng Nghymru yn hygyrch i academyddion, y cyhoedd yn ehangach, a Mwslimiaid Cymreig eu hunain, er mwyn ehangu dealltwriaeth y cyhoedd o Gymru amlddiwylliannol ac aml-grefydd.
Mater Brys
Mae'r genhedlaeth gyntaf o arloeswyr a ymgartrefodd yng Nghymru yn heneiddio ac yn ein gadael, a chyda hynny, mae eu hargraffiadau, hanesion a straeon ynghylch gwneud eu cartref yng Nghymru, yn cael eu colli.
Mae pwysigrwydd y stori hon hyd yn oed yn fwy amlwg o gofio bod y genhedlaeth bresennol o Fwslimiaid Cymreig yn "dod i oed" ac yn ceisio deall eu lle yng nghymdeithas Cymru. Bydd casglu ac yna adrodd hanes Mwslimiaid yng Nghymru yn rhoi cofnod academaidd iddynt o brofiadau eu cymunedau.
Dulliau
Bydd yr ymchwil yn cael ei harwain gan Dr Abdul-Azim a'i chefnogi gan wirfoddolwyr cymunedol a fydd yn "ymchwilwyr sy’n gyfranogwyr" - byddant yn cofnodi eu hanes teuluol eu hunain, ac yn casglu dogfennau ac eitemau pwysig, er mwyn eu harchifo. Bydd yr "ymchwilwyr sy’n gyfranogwyr” yn cael eu hyfforddi ynghylch dulliau ymchwil hanes llafar a gwyddorau cymdeithasol.
Bydd y set ddata derfynol yn cynnwys cyfweliadau hanes llafar, llinellau amser teuluol a grëwyd ar y cyd, a deunydd archifol.
Allbynnau
Bydd canlyniadau’r prosiect yn cynnwys:
- arddangosfa deithiol y gellir ei haddasu ar gyfer amgueddfeydd, orielau, ysgolion, mosgiau a lleoliadau eraill
- monograff a gyhoeddwyd gan y Prif Ymchwilydd yn seiliedig ar ganfyddiadau'r prosiect, ynghyd ag erthyglau mewn cyfnodolion academaidd
- casgliad sylweddol wedi'i goladu a'i wneud yn hygyrch i ymchwilwyr ac ysgolheigion y dyfodol ar hanes Mwslimiaid yng Nghymru
Bwrdd Cynghori
Yr ydym yn chwilio am aelodau ar gyfer y bwrdd cynghori ar hyn o bryd. Os hoffech gael eich cynnwys, cysylltwch ag aelod o dîm y prosiect.
Tîm y prosiect
Prif Ymchwilydd
Swyddog datblygu’r prosiect
Mark Bryant
Swyddog Datblygu ar gyfer y Ganolfan Astudio Islam yn y DU (Islam-UK)