Ewch i’r prif gynnwys

Pobl ifanc, proteinau amgen ac addysgeg ar gyfer dyfodol cynaliadwy

Bydd yr ymchwil hon yn archwilio rôl addysg ffurfiol o ran grymuso ymgysylltiad pobl ifanc â honiadau cymhleth sy'n ymwneud â systemau bwyd cynaliadwy a’u camau gweithredu mewn perthynas â hyn.

Gan ddatblygu dadleuon mewn daearyddiaeth am ganfyddiad a rôl proteinau amgen mewn dyfodol bwyd, ac mewn ymchwil addysg ar addysgeg dinasyddiaeth foesegol a chynaliadwy, bydd yr ymchwil arfaethedig yn:

  • Archwilio sut mae pobl ifanc yn gwneud synnwyr o oblygiadau moesegol gwahanol broteinau amgen.
  • Archwilio dealltwriaeth pobl ifanc o ddarpariaeth bwyd yn y dyfodol, a gweledigaethau ar ei chyfer.
  • Canfod rôl bosibl addysgeg, a heriau cysylltiedig, o ran grymuso ymgysylltiad beirniadol pobl ifanc â dadleuon am fwydydd yn y dyfodol.
  • Nodi mathau o gymorth a fyddai'n galluogi trafodaeth wybodus am fwydydd mewn ysgolion yn y dyfodol.

Ymdrinnir â'r nodau hyn drwy weithio gyda phobl ifanc o oedran cynradd (5-11) a'u hathrawon mewn ysgolion yng Nghymru.

Manylion

Mae lleisiau pobl ifanc yn fwyfwy amlwg mewn dadleuon ynghylch dyfodol amgylcheddol a lles anifeiliaid. Wedi'u hymgorffori ym mudiad Fridays for Future Greta Thunberg, mae’r pwyslais ar allyriadau nwyon tŷ gwydr ffermio da byw wedi bod yn arbennig o uchel ei broffil. Fodd bynnag, erys diffyg dealltwriaeth o sut mae gwerthoedd amgylcheddol a moesegol o'r fath yn troi'n agweddau ac arferion bwyta.

Mae'r ymchwil ryngddisgyblaethol arfaethedig yn dechrau mynd i'r afael â'r bwlch hwn trwy archwilio sut mae pobl ifanc o oedran cynradd yn rhagweld rôl proteinau amgen - bwydydd o blanhigion a phryfed bwytadwy - mewn dyfodol bwyd mwy cynaliadwy a moesegol. Er bod corff cynyddol o ysgolheictod ar ddealltwriaeth oedolion o gynhyrchion o'r fath, a'u hagweddau tuag atynt, mae barn pobl ifanc wedi’i hanwybyddu i raddau helaeth.

Wedi'i gyd-destunoli gan symudiadau i feithrin dinasyddiaeth foesegol a chynaliadwy drwy addysg ffurfiol, mae'r prosiect yn archwilio rôl benodol addysgeg wrth rymuso pobl ifanc i ymgysylltu'n feirniadol â honiadau cymhleth ynghylch manteision proteinau amgen a gweithredu arnynt.

Yng Nghymru - ffocws yr astudiaeth arfaethedig - bydd cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno'n ffurfiol yn 2022, gyda'r nod o greu 'dinasyddion moesegol, gwybodus' sy'n 'gallu cymryd camau ystyriol, moesegol a chynaliadwy' (Llywodraeth Cymru, 2019).

Gan ganolbwyntio ar y system fwyd fyd-eang newidiol a'r cynnydd mewn proteinau amgen, bydd yr ymchwil yn archwilio safbwyntiau athrawon ar gyflawni cydran foesegol y cwricwlwm newydd. Tra’n canolbwyntio ar Gymru, bydd y canfyddiadau a'r adnoddau yn ymdrin â phryderon a datblygiadau tebyg yn rhyngwladol.


Tîm y prosiect

Prif Ymchwilydd

Dr Christopher Bear

Reader in Human Geography, Deputy Head of School

Tîm


Cefnogaeth

Roedd modd cynnal yr ymchwil hon oherwydd cefnogaeth y sefydliadau canlynol: