Darganfod Mwslimiaid ym Mhrydain: ar gyfer Cyfnod Allweddol 3
Cyfoethogi addysgu am Islam a Mwslimiaid mewn addysg grefyddol (AG) drwy Gwrs Ar-lein Agored Enfawr (MOOC).
Y Cefndir
Mae cryn feirniadu wedi bod ers tro ar y ffordd mae addysg grefyddol yn cyflwyno crefyddau yn yr ystafell ddosbarth. Yn aml, bydd yn canolbwyntio ar ddiwinyddiaeth a chredoau ar draul eu mynegiant lluosog a dydd i ddydd o grefydd yn y gymdeithas.
Mae Islam wedi bod yn arbennig o agored i gamgynrychioli a safbwyntiau ystrydebol (Revell 2012, Berglund 2016). Mae'r Comisiwn diweddar ar Addysg Grefyddol (2018, t 76) yn pwysleisio bod angen cynnwys 'profiad bywyd unigolion a chymunedau' fel argymhelliad i wella addysg grefyddol.
Gan ymateb i'r anghenion hyn, nod y prosiect hwn yw cynorthwyo addysg grefyddol mewn ysgolion i fodloni'r argymhellion hyn drwy ddatblygu cynllun gwaith Cyfnod Allweddol 3 gydag adnoddau llawn yn ymchwilio i Fwslimiaid ym Mhrydain.
Ar sail Cwrs Ar-lein Enfawr (MOOC) hynod lwyddiannus Canolfan Islam-y DU Mwslimiaid ym Mhrydain, ein nod yw ymgorffori safbwyntiau cymdeithasegol o grefydd yn yr ystafell ddosbarth addysg grefyddol gan ddefnyddio ymchwil gymdeithasegol arloesol ac ysgolheictod academaidd mewn adnoddau addysgu. Ymhellach, rydyn ni am helpu i gefnogi athrawon addysg grefyddol i wneud hynny drwy gynllunio cwrs Datblygiad Proffesiynol Parhaus ategol hygyrch. Dechreuodd y prosiect ym mis Chwefror 2019.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn clywed mwy am y prosiect hwn, cysylltwch â’r tîm drwy discoveringmuslims@caerdydd.ac.uk. Rydyn ni ar hyn o bryd yn awyddus i siarad gydag athrawon addysg grefyddol i ffurfio cynllun a ffocws y cwrs.
Nodau ac amcanion
Gwella addysgu a dysgu am Islam a Mwslimiaid mewn addysg grefyddol drwy:
- nodi llwyddiannau, heriau ac anghenion athrawon addysg grefyddol o ran addysgu am Islam a Mwslimiaid mewn addysg grefyddol
- adeiladu ar y MOOC Mwslimiaid ym Mhrydain i ddatblygu deunyddiau y gellir eu defnyddio yn y dosbarth, gan gynnwys agweddau cymdeithasegol cyfredol ac ysgolheictod i astudio crefydd
- datblygu 'cwricwlwm gweithredol' y gellir ei ddiweddaru'n barhaus mewn ymateb i ymchwil arloesol a data newydd ar Fwslimiaid Prydeinig
- darparu Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a Dysgu Proffesiynol i gynorthwyo athrawon wrth iddynt addysgu am Islam a Mwslimiaid, dan arweiniad cwrs MOOC Mwslimiaid ym Mhrydain.
Cynllun gwaith
Mae’r cynllun gwaith yn seiliedig ar 'gwestiwn ymchwil mawr': beth mae bod yn Fwslim ym Mhrydain yn ei olygu heddiw?
Yna caiff ei rannu'n 9 gwers (tuag awr yr un) ac asesiad. Mae gan bob un ei 'gwestiwn ymchwil bach' ei hun. Y rhain yw:
- Sut allwn ni ddeall crefydd mewn cymdeithas?
- Beth mae Islam yn ei olygu i Fwslimiaid?
- Pa ffynonellau o ddoethineb ac awdurdod mae Mwslimiaid yn troi atynt am arweiniad?
- Sut mae Mwslimiaid ym Mhrydain yn ymarfer eu crefydd?
- Beth yw'r hanes rhwng Mwslimiaid a Phrydain?
- Ble mae'r cymunedau Mwslimaidd ym Mhrydain?
- Beth yw mosg?
- Sut mae Mwslimiaid yn mynegi eu ffydd yn y celfyddydau?
- Sut mae Mwslimiaid ym Mhrydain yn profi Islamoffobia?
Asesiad: Beth mae'n ei olygu i fod yn Fwslim ym Mhrydain?
Mynediad at y cwrs ac adnoddau addysgu
Gallwch chi gofrestru eich diddordeb yn y cwrs datblygu proffesiynol ar-lein a'r adnoddau addysgu am ddim:
Tîm y prosiect
Yr Athro Sophie Gilliat-Ray
Athro mewn Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddol, Pennaeth Canolfan Islam y DU
Mark Bryant
Swyddog Datblygu ar gyfer y Ganolfan Astudio Islam yn y DU (Islam-UK)
Cymeradwyaeth
Cymeradwyaeth gan Addysg Grefyddol Heddiw
Rydyn ni wrth ein bodd bod Addysg Grefyddol Heddiw wedi cymeradwyo'r cwrs DPP Darganfod Muslimiaid ym Mhrydain, a'r adnoddau addysgu Cam Allweddol 3 cysylltiedig. Dyma'r testun cyfan gan Addysg Grefyddol Heddiw:
Mae'r adnoddau addysgu a dysgu newydd gan Ganolfan Islam y DU Prifysgol Caerdydd yn cynnig cwrs DPP gwych i athrawon AG gyda chynlluniau ystafelloedd dosbarth cysylltiedig a deunyddiau ar gyfer CA3. Mae Darganfod Mwslimiaid ym Mhrydain yn defnyddio dull cymdeithasegol wrth astudio Mwslimiaid ym Mhrydain, gan ymgorffori data cyfoes ac ysgoloriaeth wedi’i churadu gan Ganolfan Islam y DU. Fel canolfan adnabyddus ar gyfer astudio Islam, mae arbenigedd Islam y DU yn cynnig rhywbeth unigryw i athrawon AG, gan fynd i'r afael â rhai problemau mawr cwricwla AG.
Yn hytrach na chyflwyniadau haniaethol, wedi’u hanfodoli o gredoau allweddol Islam, er enghraifft, mae'r ffocws ar fathau cyfoes o Islam a realiti cymdeithasol Mwslim sy'n byw ym Mhrydain. Mae athrawon a disgyblion yn dod ar draws lleisiau Mwslimiaid drwy glipiau fideo ac erthyglau, gan eu galluogi i fabwysiadau dull cymdeithasegol mewn AG. Mae'r adnodd hwn yn cefnogi athrawon i ddatblygu eu gwybodaeth eu hunain a gwybodaeth eu disgyblion am Islam a Mwslimiaid yn sylweddol, yn ogystal â'u cyflwyno i wybodaeth ddisgyblaethol – megis sut mae cymdeithaseg yn defnyddio dulliau meintiol ac ansoddol i greu a gwerthuso gwybodaeth.
Mae Islam ymhlith y pynciau mwyaf poblogaidd yn CA3 ac addysgu ar lefel TGAU, ac mae'r adnodd hwn yn cynnig DPP ystyrlon a manwl ar gyfer athrawon a ffyrdd diddorol o archwilio'r ffordd y mae Mwslimiaid yn byw. Mae'n gosod yr astudiaeth o Islam mewn cyd-destunau adnabyddus, gan ddarparu cyfleoedd ystyrlon a diddorol i ddysgu.
Bydd cyfoeth o adnoddau cysylltiedig ar gael i athrawon, gan gynnwys ymchwil ddiweddar, arloesol, i ehangu a chynyddu eu gwybodaeth eu hunain am eu pwnc. Mae'n newyddion gwych bod yr adnoddau hyn ar gael yn rhydd a bellach ar gael yn ddigidol. Mae hyn yn helpu i sicrhau y gall pawb ymgysylltu'n llawn â'r cwrs.
Ar ôl adolygu'r cwrs a'i drafod gyda thîm prosiect Darganfod Mwslimiaid ym Mhrydain, mae'n bleser gennyn ni argymell y cwrs a'i adnoddau cysylltiedig.
Cymeradwyaeth gan Gyngor Mwslimaidd Cymru
Mae Cyngor Mwslimaidd Cymru yn falch iawn o gefnogi a chymeradwyo hyfforddiant athrawon a deunyddiau addysgu Darganfod Mwslimiaid ym Mhrydain. Cynhyrchwyd yr adnoddau gan y Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd â hanes hir o berthnasoedd cadarnhaol ac ymgysylltiad â sefydliadau a chymunedau Mwslimaidd ehangach, ac mae'r ethos hwn yn cael ei adlewyrchu yn yr adnoddau a gynhyrchir.
Mae Addysg Grefyddol yn rhan werthfawr a phwysig o addysg pob person ifanc, ac mae ganddo rôl bwysig i'w chwarae wrth baratoi'r unigolyn ar gyfer bywyd ym Mhrydain amrywiol ac aml-grefyddol. Mae addysgu am Islam hyd yn oed yn bwysicach er mwyn gwrthsefyll camsyniadau ynghylch Islam a chymunedau Mwslimaidd. Dyma pam mae Cyngor Mwslimaidd Cymru yn falch o weld bod arbenigedd ac ymchwil academaidd wedi cael eu defnyddio er mwyn paratoi gwersi a deunydd hyfforddi sy'n cofnodi amrywiaeth profiadau Mwslimaidd ym Mhrydain.
Mae'n arbennig o werthfawr bod y deunydd yn hybu lleisiau a phrofiadau Mwslimiaid eu hunain. Mae hyn yn helpu i ddangos nad crefydd dramor yw Islam, ond un sy’n fyw ac yn cael ei ymarfer gan filiynau o bobl ym Mhrydain heddiw.”
Rydym yn falch iawn o weld ffocws ar Gaerdydd drwyddi draw, gan adlewyrchu Dinas gyda rhai o'r cymunedau Mwslimaidd hynaf a mwyaf sefydledig ym Mhrydain.
Dr Abdul-Azim Ahmed
Ysgrifennydd Cyffredinol
Cyngor Mwslimaidd Cymru
Cymeradwyaeth gan Gyngor Mwslimaidd Prydain
Mae Cyngor Mwslimaidd Prydain (MCB) yn llongyfarch y Ganolfan Astudiaethau Islam yn y DU ym Mhrifysgol Caerdydd am gynhyrchu deunyddiau addysgu ac adnoddau hyfforddi athrawon “Darganfod Mwslimiaid ym Mhrydain”. Mae gan y Ganolfan hanes hir o berthnasoedd cadarnhaol ac ymgysylltiad â sefydliadau cymunedol ac Islamaidd eang ac rydyn ni’n falch o weld bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn y deunydd a gynhyrchir.
Mae gan Addysg Grefyddol ran bwysig i'w chwarae wrth chwalu chwedlau a chamsyniadau am wahanol grwpiau a chymunedau crefyddol. Mae'r gallu i ddeall ffydd neu gred unigolion a chymunedau, a sut mae gwahanol fyd-olygon yn cael eu ffurfio yn bwysig iawn i'n plant sy'n tyfu i fyny ym Mhrydain fodern aml-ffydd, amrywiol. Bydd yr adnoddau hyn yn amhrisiadwy yn yr ymdrech hon.
Ar ôl adolygu’r cwrs a’i drafod gyda’r tîm prosiect Darganfod Mwslimiaid ym Mhrydain, mae Cyngor Mwslimaidd Prydain (MCB) yn falch iawn o argymell deunyddiau addysgu Darganfod Mwslimiaid ym Mhrydain ac adnoddau hyfforddi athrawon.
Peidiwch ag oedi i gysylltu â ni os oes angen unrhyw gymorth, cefnogaeth neu gymorth arnoch chi. Yn gywir,
Maswood Ahmed, MBA, Msc, CQSW, DipSW, AASW, PTA, RSW
Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol a Chadeirydd y Pwyllgor Materion Addysg