Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Polisi a Thystiolaeth ar gyfer y Diwydiannau Creadigol

Bydd y Ganolfan Polisi a Thystiolaeth yn llunio polisi ac arweiniad yn weithredol er mwyn cyflymu a llunio ffyniant yn niwylliannau creadigol y DU.

Bydd yr Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant yn arwain ei ganolfan arbenigedd ar gyfer meysydd y celfyddydau, diwylliant a darlledu gwasanaeth cyhoeddus.

Nodau'r prosiect

O fewn ein maes gwaith, byddwn yn ffocysu ar y cyfleoedd allweddol a'r heriau sy'n wynebu'r celfyddydau, diwylliant a darlledu gwasanaeth cyhoeddus mewn oes ddigidol sydd wedi ei nodweddu gan ddewis, cystadleuaeth a newidiadau.

Ein nod yw cefnogi hyfywedd economaidd ac unigrywiaeth ddiwylliannol y ddarpariaeth hon.

Manylion

Mae'r materion sydd o ddiddordeb penodol i lunwyr polisi'n cynnwys modeli ariannu a rheoleiddio, ehangu platfform, arloesedd digidol (gan gynnwys dadansoddeg data a phersonoli), ymgysylltiad y gynulleidfa gydag ecolegau'r cyfryngau newydd.

Dadleuwyd mewn adroddiad diweddar gan Ffederasiwn y Diwydiannau Creadigol a Chyngor Celfyddydau Lloegr y byddai 'buddsoddiad cyhoeddus yn natblygiad technoleg arloesol yn cryfhau sefyllfa'r UK fel arweinydd byd-eang'. Yn y cyd-destun hwn, yn ystod cam cyntaf y prosiect pum mlynedd, rydym yn edrych ar rwystrau a'r cyfleoedd i sefydliadau'r celfyddydau a diwylliant ddatblygu ac integreiddio technoleg newydd (adrodd straeon mewn modd drochol, profiadau ffôn symudol)

Wrth gymryd arweiniad gan ein hymgynghoriadau gyda rhanddeiliaid perthnasol, byddwn yn mapio a'n sefydlu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y dimensiwn yma o'n maes gwaith. Fel fframwaith cyd-destunol ar gyfer prosiectau'r dyfodol, ein blaenoriaeth yw cynnal adolygiad o'r ymchwil diweddar yn y maes hwn, a lle bo'n briodol, datblygu astudiaethau achos, sesiynau briffio a phecynnau cymorth i randdeiliaid o'r cyfryngau a diwylliant.

Yn ogystal, mae ein hymchwil yn ystyried gwerth cynnig darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn yr 21ain ganrif, yn enwedig o ran y ffordd y mae'n ymgysylltu gyda chynulleidfaoedd ifanc. Bydd y ddau brosiect yn tynnu ar wybodaeth o'n prosiectau cydweithredol sy'n dod i'r amlwg yn ogystal ag ein hymchwil rhagarweiniol ar gyfer y PEC.

Mae ein gwaith yn cwmpasu rhanbarthau a chenedlaethau'r DU. Byddwn yn ehangu ac yn tynnu wrth fframwaith methodolegol y PEC gan dynnu ar ein harbenigedd mewn dadansoddi data ansoddol, gyda phwyslais penodol ar lunio polisi. Byddwn yn cydweithio â nifer o randdeiliaid allanol er mwyn adeiladu'r cynaliadwyedd hirdymor ar gyfer y celfyddydau, diwylliant a darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn ac o'r DU.

Blogiau prosiect

Dr Caitriona Noonan, ‘Why Public Media Matters: Report from the Global Conference for Media Freedom

Dr Jenny Kidd and Dr Eva Nieto McAvoy, ‘Heritage, Community and Opportunity: A lesson on how to understand the value of culture

Dr Alessandro D’Arma, University of Westminster, and Minna Aslama Horowitz, University of Helsinki, ‘How do we safeguard public service media? Collaboration may be the answer

Dr Eva Nieto McAvoy, ‘The value of arts and culture


Tîm y prosiect

Principal investigator

alt

Yr Athro Stuart Allan

Pennaeth yr Ysgol

Tîm