Sicrhau effaith gorau posib ymchwil ym maes anhwylderau niwroddatblygiadol (MINDDS)
Partneriaeth pan-Ewropeaidd rhwng ymchwilwyr, clinigwyr a sefydliadau cleifion yw MINDDS, ac mae’n hwyluso ymchwil ar anhwylderau Niwroddatblygiadol (NDD) sy'n gysylltiedig ag Amrywiadau Rhif Copi pathogenig (CNV).
Mae'n canolbwyntio ar ddatblygu gwell dulliau o nodi ac asesu cleifion, safoni protocolau ymchwil a chanllawiau a methodolegau ar gyfer dodi, rhannu a dadansoddi data.
O ddeall anhwylderau niwroddatblygiadol prin, ceir potensial i symbylu therapïau newydd pwysig ar gyfer anhwylderau niwroseiciatrig mwy cyffredin megis sgitsoffrenia ac Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistiaeth.
Mae NDD yn effeithio ar 1 o bob 25 o unigolion ac yn cael effaith fawr ar systemau gofal iechyd, datblygiad economaidd a chymdeithas. Yr her allweddol yw cysylltu gwybodaeth newydd o faes genomeg seiciatrig er mwyn canfod mecanweithiau niwrobiolegol sy'n arwain at NDD.
Mae MINDDS yn canolbwyntio ar gleifion â CNV pathogenig prin. Nod MINDDS yw cyflymu cynnydd ymchwil ym maes NDD yn sylweddol trwy rwydwaith cydweithredol Ewrop gyfan i nodi unigolion sydd â CNV pathogenig, cytuno ar asesiadau safonol a phrotocolau ymchwil a hwyluso’r gwaith o rannu data a chyfnewid gwybodaeth er budd ymchwilwyr, clinigwyr a chleifion.
Ymholiadau
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch ymuno â MINDDS, cysylltwch â:
Yr Athro Adrian Harwood
Technical Director of the Neuroscience and Mental Health Research Institute
- harwoodaj@caerdydd.ac.uk
- +44(0) 29 2068 8492