Prosiect Dafydd ap Gwilym
Mae Dylan Foster Evans yn un o dîm o ysgolheigion (dan arweiniad yr Athro Dafydd Johnston, Prifysgol Abertawe) sydd wedi cynhyrchu golygiad newydd o waith Dafydd ap Gwilym.
Bwriad y posiect cyffrous hwn, a noddwyd gan yr AHRC, oedd darparu golygiad electronig o waith bardd mwyaf yr Oesoedd Canol.
Gall y fformat electronig gynnwys llawer mwy o wybodaeth na’r hyn y gellir ei gynnwys mewn cyfrol draddodiadol, gan gynnwys fersiynau gwahanol o’r cerddi o wahanol lawysgrifau cynnar. Ond bwriedir hefyd gyhoeddi cyfrol neu gyfrolau fydd yn darparu’r golygiadau newydd o’r testunau mewn dull hwylus. Darllenwch y golygiad.