Ewch i’r prif gynnwys

Dysgu Cymraeg fel Ail Iaith

Bwriad y prosiect ymchwil hwn yw ystyried ymha ffyrdd y gellir gwella'r modd y trosglwyddir yr iaith Gymraeg i oedolion. Dechreuodd y prosiect ym mis Mai 2010 a bydd yn rhedeg am ddwy flynedd. Mae sawl elfen i’r gwaith:

  • dulliau/methodolegau dysgu ac addysgu ieithoedd i oedolion;
  • theori dysgu iaith;
  • natur yr adnoddau dysgu ac addysgu sydd eu hangen er mwyn trosglwyddo’r Gymraeg i oedolion mewn modd effeithiol;
  • y gwahanol ystyriaethau fydd yn dylanwadu ar ddatblygiad cwricwlwm Cymraeg i Oedolion (CiO) yn y dyfodol.

Rhoddir ystyriaeth i’r materion canlynol yn neilltuol:

  • natur y cwricwlwm CiO presennol, sut mae’r cwricwlwm yn cefnogi dysgu ac addysgu effeithiol a gwelliannau posibl;
  • gwersi i'w canfod o sefyllfaoedd perthnasol o wahanol rannau’r byd;
  • achredu, ariannu, hyfforddiant i ymarferwyr, a goblygiadau cost unrhyw newidiadau i’r cwricwlwm CiO.

Manylion

Mae gan Ysgol y Gymraeg a’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion raglen ymchwil ar y cyd ar gyfer ymchwilio i wahanol agweddau ar ddysgu ac addysgu’r Gymraeg fel ail iaith.

Amcan y rhaglen yw datblygu ymagweddau newydd at ddysgu’r Gymraeg y bydd modd eu treialu yn y Ganolfan CiO, yr Ysgol a mannau eraill. Mae cwestiynau allweddol y rhaglen yn cynnwys:

  • sut mae cymhwyso gwybodaeth ac ymchwil newydd sy'n dod i'r amlwg ym maes Dysgu Saesneg fel Ail Iaith / Iaith Dramor yn effeithiol i faes CiO?
  • A oes modd i’r arfer gorau ynghylch dysgu Saesneg yn Tseina gynorthwyo’r broses o ddatblygu ymagweddau newydd at ddysgu’r Gymraeg yng Nghymru?
  • A yw ymchwil diweddar i iaith fformiwläig yn cynnig unrhyw wersi i ymagweddau at ddysgu’r Gymraeg?

Cyfrannwr allweddol i'r rhaglen yw’r Athro Alison Wray yn yr Ysgol Saesneg a Chyfathrebu. Mae’r Athro Wray yn arbenigwraig ryngwladol ar iaith fformiwläig ym maes dysgu iaith.

Mae’r rhaglen wedi ennill cefnogaeth ariannol ar gyfer y gweithgareddau canlynol:

  • Cynnal ymchwilydd ôl-raddedig, sef y Dr Tim Jilg
  • Cyfres o ymweliadau gan nifer o ysgolheigion blaengar ym maes Ieithyddiaeth Gymwysedig, gan gynnwys:
    • Mawrth 2009: yr Athro Elaine Tarone, Prifysgol Minnesota
    • Gwanwyn 2011: yr Athro Merrill Swain, Sefydliad Ontario er Astudiaethau mewn Addysg
  • Rhaglen o ymweliadau a chydweithio rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Nanjing, Tseina, gan gynnwys y canlynol:
    • 2005: Cydweithio â’r Athro Ding Yenren, Deon yr Adran Saesneg, Prifysgol Nanjing
    • 2007-8: Dau fyfyriwr PhD o Brifysgol Nanjing ar gyfnod astudio hyd blwyddyn yng Nghaerdydd
    • Tachwedd 2008: Ymweliad gan y Dr Tim Jilg o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd  i Tseina i arsylwi ac ymchwilio i ddysgu Saesneg yn Tseina
    • Ionawr – Mawrth 2009: Ymweliad dan nawdd yr Academi Brydeinig gan y Dr Qi Yan, Prifysgol Nanjing. Bu'n ymchwilio i sut y gellir cymhwyso dulliau addysgu yn Tsieina i faes CiO
    • Mai 2009: Ymweliad dan nawdd llywodraeth Tsieina gan yr Athro Alison Wray i Beijing a Nanjing i roi darlith i'r gynhadledd gyntaf yn Tsieina ar iaith fformwläig, yn ogystal â rhoi nifer o ddarlithoedd cysylltiedig a chynnal gweithgareddau amrywiol eraill.

Tîm y prosiect

Project Leader

Diarmait Mac Giolla Chriost

Yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost

Cyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig