Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Delweddu PET Cymru at Ddibenion Ymchwil a Diagnosteg

Mae gan Ganolfan Delweddu PET Cymru at Ddibenion Ymchwil a Diagnosteg (PETIC) gyfleuster cynhyrchu ar sail seiclotron sy’n darparu cynnyrch radiofferyllol at ddibenion diagnosteg ac ymchwil, drwy ddefnyddio sganwyr PET/CT clinigol a chyn-glinigol.

Y cyntaf o'i fath yng Nghymru, mae'r Ganolfan yn canolbwyntio ar ymchwil ac addysg flaengar ym maes tomograffeg gollwng positronau (PET) ar gyfer addysg uwch ledled Cymru a'r DU. Mae hefyd yn cynnig gwasanaeth clinigol lleol i gleifion GIG Cymru.

Maen nhw’n cynnig cyfleoedd ymchwil i’r Ysgolion Meddygaeth, Biowyddoniaeth, Cemeg, Fferylliaeth, Seicoleg ac Optometreg, yn ogystal â Rhwydweithiau Ymchwil Cymru Gyfan a GW4.

Bydd cynnig y cyfleuster PET cyn-glinigol yn arbennig o ddeniadol i'r diwydiant fferyllol. Maen nhw hefyd yn cynnig cyfleuster sganio clinigol sy'n gallu darparu sganiau gyda FDG (oncoleg, niwroleg), F Choline (canser y prostad), NaF (sgan esgyrn), Florbetapir (plac amyloid sydd i’w weld gydag Alzheimer’s) ac F DOPA (system dopamin a chlefyd Parkinson).

Bwriad y Ganolfan yw datblygu ffocws ymchwil niwrolegol a chyflwyno dulliau sganio derbynyddion GABA, derbynyddion glwtamad, ysgogi microglial a phrotein Tau. Ar ben hynny, maen nhw’n cynnig radioisotopau newydd megis Zirconium 89 ac Yttrium 86, sy’n gallu labelu a delweddu gwrthgyrff monoclonaidd.

Rhagor o wybodaeth am Ganolfan Delweddu PET Cymru at Ddibenion Ymchwil a Diagnosteg.

Offer

Enw Brand/model Manylion
Cyclotron Cyclone 18/9 Yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu ystod o radioisotopau gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, 18F, 13N, 15O, 11C, 89Zr.
Celloedd Ymbelydrol Celloedd Ymbelydrol Gravatom Yn cael ei ddefnyddio i gadw systemau radiocemeg ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion radiofferyllol.
Sganiwr Clinigol PETCT GE Omni Legend.  Sganiwr PETCT digidol sy’n cael ei ddefnyddio i ddelweddu cleifion sydd wedi derbyn cynhyrchion radiofferyllol.
Sganiwr PET Cyn-glinigol Nanoscan PET / CT Mediso. Yn cael ei ddefnyddio i ddelweddu testunau cyn-glinigol gan ddefnyddio naill ai PET neu CT.
Labordy Rheoli Ansawdd Amrywiol Yn cael ei ddefnyddio i brofi ystod o gemegau gan ddefnyddio HPLC gyda synwyryddion UV, ECD ac Ymbelydredd, Sbectrometreg Màs
Systemau Radiocemeg Eckert a Ziegler, Synthera, TRASIS AIO, FastLab 2 Yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu amrywiaeth o gynhyrchion radiofferyllol
System Gyflenwi Radioniwclid System Booth Welsh Yn cael ei defnyddio i gludo deunydd ymbelydrol o amgylch cyfleuster PETIC

Cysylltwch

Professor Chris Marshall

Email
petic@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2074 8164

Lleoliad

  • Main Hospital Building
    Ysbyty Athrofaol Cymru
    Parc y Mynydd Bychan
    CF14 4XN