Cyfleuster Genomeg Parc Geneteg Cymru
Mae tîm labordy Parc Geneteg Cymru’n hwyluso mynediad at offer trwybwn uchel neu ddilyniannu’r genhedlaeth nesaf ym Mhrifysgol Caerdydd a Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan y GIG (AWMGS). Mae hyn yn cynnwys system TapeStation 4200, peiriannau ME220 gan Covaris, system MiSeq, system NovaSeq 6000 a dyfeisiau PromethION 2 Solo gan Oxford Nanopore Technologies. Mae Parc Geneteg Cymru’n cynnig dull hyblyg a phwrpasol i ddiwallu anghenion prosiectau ymchwil academaidd ac anacademaidd. Rydyn ni’n gallu cynnig cyngor a chymorth ymarferol, boed ar gynllunio prosiectau, rheoli ansawdd samplau, llunio llyfrgelloedd, dilyniannu, dadansoddi data trydyddol a mwy. Mae Parc Geneteg Cymru’n gweithio i sicrhau bod y gost o gael mynediad at y dechnoleg sylfaenol hon a’i defnyddio mor rhesymol â phosibl.
Offer
Enw | Brand/model | Manylion |
---|---|---|
TapeStation | Agilent / System TapeStation 4200 | Mae TapeStation 4200 yn blatfform electrofforesis awtomataidd trwybwn uchel sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer rheoli ansawdd samplau. Mae’n gallu dadansoddi asid niwclëig, cynnig gwerthoedd integredd (rhifau integredd RNA a DNA) a chrynodi samplau. Mae pob rhes o ScreenTape sydd â 16-rhes yn defnyddio sampl o 1-2 µL (gan ddibynnu ar y pecyn), ac mae’n cymryd 1-2 funud i ddadansoddi pob sampl, neu 90 munud i ddadansoddi 96 o samplau. |
Qubit | Qubit / 2.0 | Mae fflworimedr 2.0 Qubit yn fflworimedr pen bwrdd ar gyfer meintioli DNA, RNA, a phroteinau. Mae'r llifynnau y mae'n eu defnyddio yn rhwymo i dsDNA, RNA neu broteinau, sy’n golygu nad yw halogyddion a allai effeithio ar ddulliau sy'n seiliedig ar amsugnedd yn cael effaith ar y mesuriadau. Dim ond sampl o 1 μL sydd ei hangen ar gyfer y rhan fwyaf o brofion. |
Covaris | Covaris / ME220 | Mae peiriant ME220 yn uwchsonigydd canolbwyntiedig pen bwrdd sy’n gallu prosesu rhwng un ac wyth o samplau sydd rhwng 15 µL a 500 µL o ran eu cyfaint. Mae’n gallu croeswasgu DNA ac echdynnu asid niwclëig o feinweoedd wedi’u gosod â fformalin a’u mewnosod â pharaffin (FFPE). |
MiSeq | Illumina / MiSeq | Mae dilyniannwr bwrdd gwaith MiSeq yn rhoi mynediad at gymwysiadau megis dilyniannu genynnau wedi’i dargedu, metagenomeg, dilyniannu genomau bach, mynegi genynnau wedi’i dargedu a dilyniannu amplicon. Mae’n cynhyrchu hyd at 15 Gb o allbwn gyda 25 miliwn o ddilyniannau a dilyniannau 2x300 bp o ran eu hyd. |
NovaSeq 6000 | Illumina / NovaSeq 6000 | Mae dilyniannwr NovaSeq 6000 yn system cell llif ddeuol sy’n gweithio gyda gwahanol fathau o gelloedd llif, dilyniannau o bob hyd a dau lif gwaith (safonol ac Xp). Mae’n gallu cynhyrchu 6 Tb o allbwn gyda 20 biliwn o ddilyniannau a dilyniannau 2x150 o ran eu hyd, a hynny mewn llai na dau ddiwrnod (dilyniannau 2x250 bp o ran eu hyd ar gael ar gyfer y gell llif leiaf yn unig). Mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer llyfrgelloedd ungellog, trawsgrifiomeg ofodol, dilyniannu genomau cyfan a dilyniannu ecsomau cyfan. |
PromethION 2 Solo (P2 Solo) | Oxford Nanopore Technologies / PromethION 2 | Mae PromethION 2 Solo (P2 Solo) yn ddyfais ben bwrdd fach ar gyfer dadansoddi a chynhyrchu data o hyd at ddwy gell llif PromethION. Mae modd dadansoddi pob cell llif yn annibynnol. Mae P2 Solo naill ai'n plygio i mewn i system GridION Mk1 neu gyfrifiadur perfformiad uchel i ffrydio a dadansoddi data mewn amser real. |
Cysylltwch
Shelley Rundle
Lleoliad
-
Sir Geraint Evans Cardiovascular Research Building
Ysbyty Athrofaol Cymru
Parc y Mynydd Bychan
CF14 4XN