Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Ymchwil Cinaesioleg Glinigol (Labordy RCCK)

Mae Labordy RCCK yn labordy dadansoddi symudiadau o'r radd flaenaf.

Offer

Enw Brand/model Manylion
GRAIL MMGRA-30140601 Mae'r GRAIL yn cynnwys melin draed wedi’i hofferynnu ac iddi ddau felt, system recordio symudiadau ac amgylchedd realiti rhithwir cydamserol a thri chamera fideo. Mae dau felt i’r felin draed, gyda phlatiau grym integredig wedi'u gosod ar ffrâm symudiadau â dwy radd o ryddid. Mae mecanwaith harnais ynghlwm wrth y nenfwd ar gyfer diogelwch ac mae canllawiau ar bob ochr i'r felin draed. Mae sgrîn taflunio silindrog 180o o flaen y system gyda 3 thaflunydd wedi'u gosod ar y nenfwd i roi tafluniadau lens ongl lydan. Mae camerâu recordio symudiadau (isgoch) wedi'u gosod ar y nenfwd a'r wal. Caiff hwn ei gefnogi gan rac gweinydd sy'n dal cyfrifiadur D-Flow, cyfrifiadur recordio symudiadau, generadur delweddau (meddalwedd taflunydd), gweinydd fideo, switsh prif rwydwaith, switsh rhwydwaith fideo, KVM (fideo, switsh llygoden bysellfwrdd), Vicon lock+ a mwyhadur sain. Mae yna hefyd gabinet rheoli melin draed (MIC). Caiff hyn oll ei gyflawni gan y ddesg weithredu lle mae tri monitor, dau fysellfwrdd a chonsol gweithredu system. Mae'r feddalwedd yn cynnwys D-Flow, MoCap a Nexus. Mae'r GRAIL wedi'i integreiddio ag offer sy'n ein galluogi i fonitro lefelau gweithgaredd y cyhyrau (trwy electromyograffeg arwyneb) yn ystod symudiadau ac ysgogi nerfau neu gyhyrau’n drydanol neu roi ysgogiad trawsgreuanol magnetig (i’r ymennydd) wrth gerdded ar felin draed.
Camera Vicon Vero 2.2 Mae’r system hon yn cynnwys system Vicon Vero v2.2 12-camera, gyda chamerâu wedi’u gosod ar y waliau neu drybeddau neu wedi’u gosod ar y nenfwd, dau gamera fideo Vue ac un cyfrifiadur recordio a monitor. Mae dau blât grym yn y llawr sy’n integreiddio â’r system Vicon.
Tobii Pro Spectrum Tobii Proc Spectrum Mae Tobii Pro Spectrum yn system tracio’r llygaid perfformiad uchel a ddyluniwyd gyda nodweddion uwch sy'n caniatáu tracio’r llygaid yn fanwl gywir mewn amrywiol amgylcheddau a gweithgareddau. Mae'r system yn gallu recordio data manwl ar syllu, symudiadau llygaid, a maint canhwyllau llygaid, gan ei gwneud yn ddefnyddiol ar gyfer deall sylw gweledol, prosesau gwybyddol, ac ymddygiad defnyddwyr wrth wneud tasgau cymhleth.
Tobii Glasses 2 Tobii Glasses 2 Mae Tobii Glasses 2 yn ddyfais tracio llygaid arloesol y gellir ei gwisgo ar gyfer astudio ymddygiad a sylw gweledol yn y byd go iawn. Mae'r ddyfais hon yn integreiddio technoleg tracio’r llygaid gyda fformat cryno, gwisgadwy. Felly mae’n addas ar gyfer amrywiaeth o gymwysiadau, megis astudiaethau profiad defnyddwyr, ymchwil glinigol, ac astudiaethau arsylwi mewn amgylcheddau naturiol.
Ysgogi magnetig trawsgreuanol (TMS) Modiwl Magstim 200 BiStim Ysgogi’r ymennydd yn anymwthiol – ysgogiadau pwls sengl ac mewn parau
Electromyogram (EMG) System Delsys Trigno gyda synwyryddion Avanti a Quattro a gorsaf sylfaen di-wifr System EMG aml-sianel di-wifr
Deinamometr Isocinetig Biodex Biodex 840-10 Deinamometr Isocinetig yw Biodex sy'n mesur cryfder a phŵer y cyhyrau

Cysylltwch

Dr Catherine Purcell

Email
purcellc2@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2251 0961

Lleoliad

  • Ty Dewi Sant
    Ysbyty Athrofaol Cymru
    Parc y Mynydd Bychan
    CF14 4XN