Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Gyhyrysgerbydol (MSKBRF)

Canolfan integredig a blaenllaw ar gyfer ymchwil ar fiomecaneg gyhyrysgerbydol a biobeirianneg, sy'n cynnig ystafelloedd ymdrochol yn cynnwys labordai symudiad dynol, gallu fflworosgopi (pelydr-x fideo), ynghyd â thechnolegau cysylltiedig.

Offer

Enw Brand/model Manylion
System Recordio Symudiadau Heb Farciwr Theia3D System Theia3D gyda Chamerâu Miqus System Recordio Symudiadau sy’n fanwl gywir ac o’r radd flaenaf, gyda thechnoleg olrhain awtomatig sy’n ffocysu ar sawl unigolyn ac sydd â’r potensial i’w defnyddio mewn pa amgylchedd bynnag.
Melin Draed Bertec wedi’i Hofferynnu Melin Draed Bertec wedi’i Hofferynnu Melin draed a gaiff ei rheoli’n fanwl gyda harnais diogelwch i ganiatáu monitro symudiad dros bellter anghyfyngedig. Gwregysau hollt wedi’u hofferynnu, a’r gallu i’w gosod ar inclein. Mae modd ei hintegreiddio â systemau recordio symudiadau.
System Recordio Symudiadau Qualisys 1 Set gamera Qualisys Oqus 700+ 10, ynghyd â chamera fideo Oqus 210c System Recordio Symudiadau Qualisys - Labordy Symudiad Dynol.
System Recordio Symudiadau Qualisys 2 Set gamera Qualisys Oqus 700+ 12, ynghyd â chamera fideo Oqus 210c System Recordio Symudiadau Qualisys - Labordy Symudiad Dynol.
Llwyfannau Grym Bertec x 2 Llwyfannau Grym Bertec 4060-10-1000 Llwyfannau grym at ddibenion mesur symudiadau dynol.
Plât Grym Cludadwy Bertec 4060 Plât grym cludadwy sy'n caniatáu ichi gasglu data mewn modd hyblyg at ddibenion dadansoddi clinigol a dadansoddi cerddediad mewn amrywiaeth o leoliadau.
System Electromyograffeg Ddi-wifr sEMG System EMG Ddi-wifr Delsys Trigno ag iddi 32 o Sianeli System electromyograffeg ddiwifr at ddibenion mesur gweithgarwch y cyhyrau.
Llwybr Cerdded Tekscan Cit system Llwybr Cerdded Tekscan HRV6 HR. Llwybr Cerdded sy’n mesur grym cyffyrddol a phwysau.
Grisiau Bertec wedi’u hofferynnu Bertec. Grisiau cludadwy wedi’u hofferynnu gyda chanllaw ag offer. Mae'n cynnwys 3 gris wedi’u hofferynnu ynghyd â balconi uchaf heb eu hofferynnu (cyfanswm o 4 gris).
Mat pwysau GAITRite  GAITRite Platinum. Rhodfa gludadwy i fesur paramedrau cerddediad yn amseryddol ac yn ofodol.
Synwyryddion mesur 3D inertiaidd y corff gan Xsens Xsens Awinda. Synwyryddion mesur inertiaidd di-wifr a gwisgadwy y corff gan Xsens sy’n cynnig technoleg dadansoddi mudiant yr holl gorff gan ddefnyddio cinemateg 3D.
System Pwysau Tekscan Plantar Tekscan F-Scan VersaTek. System Mesur Pwysau yn yr Esgid.
System dadansoddi cymalau K-Scan Tekscan K-Scan. Dyma offeryn sy’n mesur sut mae arwynebau cyswllt esgyrn cymalog yn gweithio ac yn llwytho at ddibenion gwrthrychol dadansoddi cymalau.
Monitorau Gweithgarwch Dynol GeneActiv ActivInsights GeneActiv. Dyfeisiau actigraffeg sy’n monitro gweithgarwch dynol.
Deinamomedr isocinetig Biodex Biodex System 4 Dyma offeryn sy’n mesur cryfder, grym, dygnwch ac ystod mudiant y cyhyrau a'r cymalau.
Sganiwr Dwysedd Esgyrn (DEXA) amsugnofetreg pelydrau-X ynni deuol (DXA) Cyfres Hologic – Vertec Discovery (Delphi-A) QDR. Mae’r DXA yn defnyddio ymbelydredd ïoneiddio dos isel i gynhyrchu delweddau o'r corff i fesur dwysedd mwynau’r esgyrn (BMD) a chyfansoddiad mwynau’r esgyrn (BMC), yn ogystal â chyfansoddiad cyffredinol y corff.
System (Flworosgopeg) Pelydr-X Deublaen Mae gan Brifysgol Caerdydd Labordy Fflworosgopeg wedi'i ddylunio a'i adeiladu, gyda galluoedd sy’n unigryw yn y DU. System pelydr-X deublaen deinamig cyflymder uchel sy'n gallu cynhyrchu hyd at 125 FPS pwls a 1000FPS ar gyfer pelydrau X parhaus. Gellir ei integreiddio â dadansoddiad recordio symudiadau.
Bruker SkyScan MicroCT Bruker Skyscan 1272. Microsgopeg pelydr-X 3D cydraniad uchel ar gyfer samplau delweddu annistrywiol ar gyfer gwyddor bywyd, electroneg, daeareg ac asgwrn.
Samsung uwchsain cludadwy System uwchsain Samsung RS80A. Uwchsain o ansawdd uchel gyda nifer o drawsyryddion pelydr llinellol addas i'w defnyddio ar gyfer MSK, abdomen, fasgwlaidd ac organau bach. Gellir ei ddefnyddio hefyd at amrywiaeth o ddibenion ymchwil ar ddeunyddiau e.e. geliau.
Sganiwr llaw Space Spider 3D Arctec Space S Mae'r space spider yn sganiwr 3D llaw sy'n digideiddio delweddau 3D o wrthrychau bywyd go iawn yn fanwl gywir.

Cysylltwch

Professor Cathy Holt

Email
mskbrf@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6436

Lleoliad

  • Queen's Buildings
    5 The Parade
    Heol Casnewydd
    CF24 3AA