Ewch i’r prif gynnwys

Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

Mae’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) yn gysyniad arloesol sy'n gweithio ar y groesffordd rhwng y byd academaidd a diwydiant, gan gynnig cyfleusterau saernïo a phrofi o'r radd flaenaf i ddefnyddwyr gael datblygu a phrofi eu hymchwil, a'i baratoi i’w gael ei ddatblygu gan ddiwydiant.

Offer

Enw Brand/model Manylion
Anweddydd 4 Lesker, Pro Line PVD200 System ddyddodi haen denau - metelau thermol neu belydr-e - Al, Au, Ag, Cr, Zn, Ti, Ni. Tasgiad- Al, ITO a NiCr
Anweddydd 5 Lesker, Pro Line PVD200 System ddyddodi haen denau gyda system UHV Egun - metelau thermol neu belydr-e - Al, Au, Ti, Pt, Ni, AuGe
Anweddydd 6 BUHLER, Boxer, anweddydd deuelectrig gyda gwn pelydr-e - metelau thermol neu belydr-e - Al, Au, Ti, SiO2. Tasgiad- SiO2 a SiN
Offeryn ysgythru ICP-RIE Oxford Instruments, PlasmPro 100 Cobra 300 Offeryn ysgythru plasma - ysgythru III-V, GaN, SiN
Tymherydd Thermol Cyflym JIPELEC, Prosesydd RTP Jetfirst 300 3 x 400V. Mae’n tymheru cysylltiadau lled-ddargludyddion metel dros 300mm gydag awyrgylch N2 neu O2 rheoledig. Rheoli tymheredd thermocwpl neu byromedr hyd at 1200 °C.
Offeryn alinio mwgwd 6" SÜSS MicroTec, Offeryn Alinio Mwgwd MA6 Offeryn ffotolithograffig gyda lamp UV 1000W Hg. Moddau cyswllt meddal, caled, gwactod a gwactod meddal.
Ffwrnais Ocsideiddio Gwlyb AET, ffwrnais ALOX gyda siambr 6” â deunydd trosi egni
SEM Cydraniad Uchel Hitachi, Regulus8230 Delweddu SEM cydraniad uchel, gyda synwyryddion EDX X-Flash a FlatQuad.
Delweddwr Axio Zeiss, Z2 Vario Microsgop o ansawdd uchel ar gyfer delweddu a mesur dimensiynau critigol dros 200mm. Mapio lled-awto ar gael.
Dyddodi Haen Atomig (ALD) Beneq, ALD, System Haen Denau TFS200* Dyddodi ALD TiO2, TiN, Ta2O5, Al2O3, ZnO, SiO2, SiN, NiO, ITO, MoO.
Diffreithomedr Pelydr-X (XRD) X'Pert3 MRD XL. Nodweddu dyfeisiau optoelectronig sy'n seiliedig ar haen denau.
Anweddydd 7 Moorfield - minilab ET80A System PVD â siambr lwytho gyda pharatoad at lanhau tasgiad Ar. Mae’n addas ar gyfer samplau wafferi sydd hyd at 6", sydd â galluoedd thermol a phelydr-e.
Anweddydd 8 Moorfield - minilab S060M System PVD siambr agored, sy'n addas ar gyfer samplau wafferi sydd hyd at 6", gyda galluoedd tasgu.
Offeryn alinio mwgwd 4" SÜSS MicroTec, Offeryn Alinio Mwgwd MJB4 Mae'r MJB4 yn offeryn alinio amlbwrpas a hyblyg ar gyfer trin swbstradau safonol ac ansafonol.
Offeryn alinio mwgwd 8" SÜSS MicroTec, Offeryn Alinio Mwgwd MA08 Gen4 Mwgwd lled-awtomataidd ac offeryn alinio bond gydag opteg lleihau diffreithiant.
SEM bwrdd gwaith SEM bwrdd gwaith G2 PhenomXL Microsgop electron sganio (SEM) bwrdd gwaith gyda sbectrosgopeg gwasgaru egni (EDS).
Microsgop Keyence Keyence VHX-7100 Microsgop digidol gyda chywirdeb uchel 4K.
Glanhawr Mygydau Glanhawr Mygydau HMx9 Mae'r HMx9 yn cael ei lwytho gyda llaw â phrosesu dilyniannol awtomatig, wedi'i gynllunio ar gyfer mwgwd sydd o ansawdd uchel neu lanhau swbstradau.
System lithograffeg optegol di-fwgwd Heidelberg, System MLA150 Offeryn lithograffeg optegol di-fwgwd sy'n defnyddio Cyweiriadur Golau Gofodol 2-ddimensiwn i daflu patrymau ar wafferi sydd wedi'u gorchuddio â gwrthydd yn uniongyrchol.
MCS8 SUSS MicroTec, MCS8 System fodylaidd ar gyfer gorchuddio wafferi â ffoto-wrthydd.
Datblygwr Dyfrllyd SUSS MicroTec, AD12 System brosesu gwlyb â llaw ar gyfer taenu trwy gyfryngau dyfrllyd.
Datblygwr Toddyddion SUSS MicroTec, SD12 System brosesu gwlyb â llaw ar gyfer swyddogaethau glanhau a chreu a chodi (lift-off) ar gyfer taenu trwy gyfryngau toddyddion.
Proffilomedr System Uwch DektakXT (DXT-A) Proffiliwr arwyneb pwrpas cyffredinol sydd ag amlochredd ac ailadroddadwyedd (4 angstrom).
E-linell RAITH, EBL Offeryn lithograffeg pelydr electronau.
System lithograffeg pelydr electronau perfformiad hynod uchel RAITH, EBPG 5200 plus System lithograffeg pelydr electronau perfformiad hynod uchel 100kV sy'n addas ar gyfer ysgrifennu ar raddfa nano ar amleddau o hyd at 125MHz.
Llif torri 6" Loadpoint Nanoace 3 Llif torri 6"
Llif torri 8" ADT, system dorri’n fân 7900 DUO 8" Llif torri 8"

Cysylltwch

Chris Matthews

Email
ics@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2251 0549

Lleoliad

  • Translational Research Hub
    Heol Maindy
    Cathays
    CF24 4HQ