Ewch i’r prif gynnwys

Labordy Foltedd Uchel

Mae gan y labordy Foltedd Uchel sawl newidydd prawf (10 i 330 kV) a generadur ysgogi (hyd at 400 kV) sy’n cael eu defnyddio ar gyfer profi a nodweddu deunyddiau ynysu.

Mae'r labordy hefyd yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer profion olrhain/erydu sy'n cydymffurfio ag IEC 587 a siambr lygredd sy'n cydymffurfio ag IEC 507.

Offer

Enw Brand/model Manylion
Generadur Ysgogi 200kV, Uned Wefru ac Uned Reoli Haefely SGSA200-10, Haefely LGR 100-15, Haefely GC223 Cynhyrchu foltedd mellt / hyrddiau o gerrynt hyd at 200kV. System gludadwy, sy’n cael ei ddefnyddio’n bennaf i werthuso perfformiad electrodau daearu dan amodau pan fydd mellt yn taro.
Generadur Marx 300kV, Cyflenwad Pwêr a Banc Rheoli Ferranti Cynhyrchu tonffurfiau foltedd mellt hyd at 300kV. Yn cael eu defnyddio’n bennaf i brofi systemau ac offer ynysu ar foltedd is (<40kV).
Generadur Ysgogi 400kV, Uned Wefru ac Uned Reoli Haefely SGSA400-20, Haefely LGR 100-20, Haefely GC223 Cynhyrchu foltedd mellt / hyrddiau o gerrynt hyd at 400kV. Yn cael eu defnyddio’n bennaf i werthuso systemau ynysu ac amddiffyn rhag gorfoltedd dan amodau pan fydd mellt yn taro.
Troswyr Cerrynt a Foltedd Troswyr Cerrynt a Foltedd Ystod o brobiau foltedd differol, trawsnewidyddion cerrynt, probiau mwyhawyr cerrynt, coiliau Rogowski ac ati at ddibenion mesur foltedd isel (<1kV) a mesur cerrynt hyd at 50kA
Siambr Niwl a Set Prawf Ynysol Siambr Niwl C&W Trawsnewidydd HVAC Hipotronics + uned reoli Ar gyfer profion ynysol o systemau ynysu wedi’u llygru o dan/hyd at 75kV AC
Rhanelli Hyrddiau Foltedd – Cynhwysol Ystod o ranelli cynhwysol i fesur foltedd hyd at 700kV Rhanelli foltedd cynhwysol i fesur hyrddiau mellt safonol hyd at 700kV
Rhanelli Hyrddiau Foltedd – Gwrthiannol Haefely R800, Haefely R200 Rhannelli foltedd gwrthiannol i fesur hyrddiau blaen-fellt cyflym iawn hyd at 800kV
Siambr Uwchfioled Atlas Suntest XXL Er mwyn cyflymu’r broses o heneiddio / hindreulio systemau ynysu a gwrthrychau profi eraill cyn cymhwyso foltedd uchel

Cysylltwch

Mr Stephen Robson

Email
robsons1@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5351

Lleoliad

  • Queen's Buildings
    5 The Parade
    Heol Casnewydd
    CF24 3AA