Cyfleuster microbeladr electron
Mae modd defnyddio ein microsgop i ddelweddu gwrthrychau megis mwynau a microffosilau wedi’u chwyddo yn llawer mwy nag y gallai microsgop optegol.
Mae cyfleuster Microbaladr Electron Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd yn gartref i ddau Ficrosgop Sganio Electronau a Diffreithomedr Pelydr-X. Caiff y Microsgop Sganio Electronau (SEM) ei ddefnyddio i nodweddu, delweddu a dadansoddi nodweddion is-micron mewn deunyddiau. Caiff y Diffreithomedr Pelydr-X ei ddefnyddio i ddod o hyd i fwynau, a’u nodweddu, naill ai ar eu pennau eu hunain neu mewn cymysgeddau cymhleth.
Mae ein cyfleusterau'n cynnwys SEM Dadansoddol Chwistrell Allyriadau Maes Zeiss Sigma HD o'r radd flaenaf sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer delweddu cydraniad uchel a mapio elfennau pelydr-X yn ogystal â dadansoddiad meintiol o elfennau mawr, mân a hybrin. Yn ogystal, caiff ein SEM Amgylcheddol Chwistrell Allyriadau Maes FEI XL30 ei ddefnyddio ar gyfer delweddu cydraniad uchel a dadansoddi elfennau pelydr-X lled-feintiol o samplau. Mae cyfleusterau araenu carbon ac aur ar gael ar gyfer samplau nad ydyn nhw’n dargludo. Caiff Diffreithomedr Powdwr Awtomataidd Philips PW1710 ei ddefnyddio i ddod o hyd i fwynau, a’u nodweddu, naill ai ar eu pennau eu hunain neu mewn cymysgeddau cymhleth.
Gall unigolion o bob coleg ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ogystal â sefydliadau academaidd eraill a phartneriaid yn y diwydiant, ddefnyddio ein hoffer. Dylai'r rhai sydd â diddordeb mewn defnyddio'r cyfleusterau gysylltu â Duncan Muir (MuirD1@caerdydd.ac.uk).
Offer
Enw | Brand/model | Manylion |
---|---|---|
Zeiss Sigma HD | Carl Zeiss Sigma HD FEG-SEM | In-lens SE, ET-SE, BSE, 150mm X-Max EDS deuol, Wave WDS |
Zeiss Sigma 300 VP | Carl Zeiss Sigma 300 Pwysau Amrywiol FEG-SEM | In-lens SE, ET-SE, BSE, UltimMax deuol 65mm EDS, Nordlys EBSD, glanhawr plasma |
Araenydd Carbon Agar | Araenydd Carbon Agar Turbo | Araenydd carbon gyda synhwyrydd trwch i araenu samplau SEM nad ydyn nhw’n dargludo |
Araenydd Sputter Biorad | SC500 | Araenydd tasgu ar gyfer ychwanegu haenau Au neu AuPd i samplau SEM nad ydyn nhw’n dargludo |
Cysylltwch
Dr Duncan Muir
- muird1@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5059
Lleoliad
-
Main Building
Plas y Parc
CF10 3AT