Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC)

Mae Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) yn rhoi mynediad at dechnolegau sganio'r ymennydd sydd o'r radd flaenaf, gan gynnwys delweddu cyseiniant magnetig strwythurol a swyddogaethol (MRI a fMRI), electro-enseffalograffeg a magneto-enseffalograffeg (EEG a MEG), a symbyliad magnetig trawsgreuanol (TMS).

Offer

Enw Brand/model Manylion
7 Sganiwr MRI Tesla System Magnetom Siemens System Siemens 7 Tesla Magnetom sy'n seiliedig ar fagned Agilent 7T/830 wedi'i orchuddio. Mae’r system yn meddu ar raddiannau 70 mT/m, technoleg trosglwyddo paralel Siemens (pT x Step 2.3), ac mae ganddo allu aml-niwclear i fanteisio’n llawn ar gryfder maes uchel.
3 Sganiwr MRI Tesla Prisma Siemens Y Prisma yw’r sganiwr 3T ymchwil mwyaf datblygedig sydd ar gael ar hyn o bryd, gan gynnwys graddiannau 80 mT/m a hyd at 128 RF o sianeli derbyn.
Sganiwr MRI Microstrwythur Siemens. Mae’r system fanwl hon yn cynnwys coiliau graddiant 300 mT/m sydd fel arfer bedair gwaith yn gryfach na’r rhai hynny sydd mewn systemau MR confensiynol. Mae hyn yn rhoi’r gallu i ymchwilwyr brocio microstrwythur meinweoedd yn llawer manylach.
Sianel EEG 128 BioSemi Gosod electrodau Gweithredol a Goddefol.
Symbyliad magnetig trawsgreuanol Magstim. Mae’n cynnwys nifer o systemau ar gyfer protocolau ailadroddus a phatrymog all-lein (gan gynnwys symbyliad byrstio theta), symbyliad pwls mewn parau i fesur niwroffisioleg GABAergig a glwtamatergig a thechnoleg arbenigol ar gyfer MRI TMS ac 3T cydamserol.
Clwstwr Perfformiad Uchel Clwstwr Perfformiad Uchel 100 Nod Cyfrifiannu, 12 craidd CPU, 192 GB o RAM.

Cysylltwch

Elaine Rees

Email
cubricmanager@cardiff.ac.uk

Lleoliad

  • Cardiff University Brain Research Imaging Centre
    Heol Maendy
    CF24 4HQ