Ewch i’r prif gynnwys

Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog (CBS)

Mae’r Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog (CBS) yn gyfleuster “craidd” canolog. Mae’n ymfalchio mewn hybu anghenion ymchwil ac addysgol Prifysgol Caerdydd a’r gymuned gyfagos.

Offer

Enw Brand/model Manylion
System Cyseinedd Plasmon Arwyneb (Cytiva Biacore™ T200) GE Biacore T100™ Technoleg biosynhwyrydd ar gyfer monitro rhyngweithiadau moleciwlaidd mewn amser real, heb ddefnyddio labeli. Gall moleciwlau gynnwys proteinau, peptidau, asidau niwclëig, carbohydradau, lipidau a moleciwlau pwysau moleciwlaidd isel megis cynhyrchion fferyllol.
Microsgop Electron JEOL (SEM) 840A JEOL (SEM) 840A Camerâu digidol a meddalwedd delweddu, wedi'u gosod â synwyryddion Pelydr-X ar gyfer dadansoddi elfennol, mapio elfennol ar y cam cryogenig ac atodi cryogenig ar gyfer paratoi samplau.
Didolwr Cell BD FACSAria™ III Cell sorter (11 colours) Didoli celloedd digidol cyflymdra uchel i diwbiau (4 ffordd), platiau (6, 24, 48, 96 a 348 ffynnon), neu ar sleidiau meicrosgop.
Microarray platform (Affymetrix) Affymetrix Platfform Affymetrix GeneChip®.
Imaging flow cytometer (Amnis ImageStream® X Mark II) Amnis® ImageStream® X Mark II. Amnis® ImageStream® X Mark II Sytomedr llif delweddu, amlsbectrol, pen bwrdd sy’n gallu caffael hyd at 12 sianel o ddelweddau celloedd.
Delweddwr imiwnobrawf electrogemegol (platfform MSD®) MESO QuickPlex SQ 120. Mae teclyn QuickPlex MSD yn cynnig dull fforddiadwy o gynnal imiwnobrofion electrogemegol sengl ac amlblecs cyflawniad uchel.
Sytomedr llif delweddu pen bwrdd Sytomedr llif ThermoFisher Attune™ NxT Dyma ddadansoddwr cell pen bwrdd bach i ddylunio, cynnal a dadansoddi paneli amryliw hyd at 11 lliw mewn ffordd hyblyg.
Sytomedr llif delweddu pen bwrdd Sytomedr llif BD LSFortessa™. Gall y dadansoddwr cell hwn ganfod 16 lliw ar yr un pryd â set ddiffiniedig o hidlwyr optegol.
PCR (qPCR) amser real Applied Biosystems™ QuantStudio™ 12K. Platfform PCR amser real, cynhwysfawr, hynod hyblyg a all gynnwys platiau OpenArray™, cardiau aráe TaqMan™, platiau 384 ffynnon, 96 ffynnon, a phlatiau 96 ffynnon FAST.
Robot trin hylifau Robot trin hylif Eppendorf epMotion® P5073. Mae'r robot hwn yn system hyblyg ar gyfer awtomeiddio unrhyw weithdrefnau pibellau cymhleth sy'n cymryd llawer o amser.
Dadansoddwr Cell BD FacSymphony™ A3 BD FACSymphony™ A3 Cell Analyzer. Sytomedr llif dimensiwn uchel gyda chyfluniad 5 laser (gan gynnwys laser Uwch Fioled)
NanoString nCounter® System Dadansoddi NanoString NCounter® MAX Amlblethu o hyd at 800 o dargedau mynegiant genynnau gan ddefnyddio technoleg canfod uniongyrchol.

Cysylltwch

Dr Ian Brewis

Email
cbsadmin@cardiff.ac.uk

Lleoliad

  • Main Hospital Building
    Ysbyty Athrofaol Cymru
    Parc y Mynydd Bychan
    CF14 4XN