Ewch i’r prif gynnwys

Ffowndri Diemwnt Caerdydd

Mae Ffowndri Ddiemwnt Caerdydd yn gyfleuster sy’n tyfu deunyddiau ac yn cynnwys pedwar system Dyddodi Gwastraff Cemegol (CVD), mesureg ffilmiau tenau cynhwysfawr a llyfnhau cemegol a mecanyddol (CMP). Rydyn ni’n canolbwyntio ar ddod o hyd i atebion sydd ddim ar gael yn fasnachol, gan gynnwys integreiddio diemyntau gyda deunyddiau newydd (megis GaN) a monitro yn y fan a’r lle. Rydyn ni hefyd yn arbenigo mewn dopio gan ddefnyddio boron, uwchddargludedd yn ogystal â defnyddio silicon/nitrogen ar gyfer grwpiau o liwiau / ffynonellau un ffoton. Rydyn ni wedi hen ennill ein plwyf yn datblygu diemyntau nanogrisialog (NCD), sef darn tenau o ddiemwnt sy’n cynnwys nifer o’r priodweddau eithafol o ddiemwnt, ond am gost sylweddol yn llai.

Offer

Enw Brand/model Manylion
Adweithydd Tyfu Diemwnt (Boxer) Seki 6500 System dyddodi Anweddau Cemegol at ddibenion tyfu a dopio diemyntau.
Adweithydd Tyfu Diemwnt (Raskolnikov) Seki SDS5250 System dyddodi Anweddau Cemegol at ddibenion tyfu a dopio diemyntau.
Adweithydd Tyfu Diemwnt (Persephone) Carat Systems CTS 6U System dyddodi Anweddau Cemegol at ddibenion tyfu diemyntau. Wafferi diamedr hyd at 4" Haenau diemwnt sy’n 30nm i mm o drwch ar wahanol swbstradau. Diemwnt cynhenid Dim dopio.
System Llyfnhau Cemegol a Mecanyddol Logitech CMP Tribo System Llyfnhau Cemegol a Mecanyddol at ddibenion caboli diemyntau ac ati, wafferi hyd at 4”.
Elipsomedr sbectrosgopig Woolham M2000. Ellipsometer sbectrosgopig gydag ystod donfedd o 193 - 1000 nm, gyda mapio wafferi a laser wedi’i gyfyngu.
Ffwrneisi tymheredd uchel Amrywiol. Gyda thymheredd hyd at 1600C, gwactod, ac amrywiaeth o nwyon amgylchynol (H2, Ar, N2, CH4, O2).
Gwasgaru Golau Dynamig Malvern Zetasizer Nano ZS with autotitrator. Particle size and zeta potential.
Dadansoddi ac Olrhain Nanoronynnau (NTA) Malvern Nanosight LM10 Maint gronynnau.
System Mesur Nodweddion Ffisegol (PPMS) Quantum Design Evercool II. Gwrthedd, ACMS, VSM, 1.9 - 400K
Ffwrnais Inconel Dyddodiad Anwedd Cemegol wedi’i adeiladu yn bwrpasol. Ffwrnais ddyddodi anwedd cemegol gyda chymorth plasma (CVD) at ddibenion tyfu Haffniwm Carbid a Seramegau Tymheredd Tra Uchel (UHTC) eraill, gyda pheiriant byrlymu tymheredd uchel ar gyfer rhagflaenwyr anehedol.
Symleiddio cyfarpar posibl / Defnyddio Dadansoddwr Electrokinetc at ddibenion dadansoddi arwyneb solet Anton Paar SurPASS 3. Dadansoddi potensial zeta yn awtomataidd ar solidau macrosgopig.

Cysylltwch

Yr Athro Oliver Williams

Email
williamso@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4978

Lleoliad

  • Queen's Buildings
    5 The Parade
    Heol Casnewydd
    CF24 3AA