Yr Ystafell Sbectrosgopeg Ffotoelectron
Mae'r Ysgol Cemeg yn falch o gynnig gwasanaeth dadansoddol i brifysgolion, unigolion a diwydiant.
Sefydlwyd y ganolfan yn yr Ysgol Cemeg, cyn symud i'r Ganolfan Ymchwil Drosi bwrpasol ar Gampws Arloesi Maendy. Nod y ganolfan yw cynnig gwasanaeth dadansoddol, fforddiadwy ac o safon uchel i bawb.
Spectrosgopeg ffotoelectron pelydr-X, sy’n cael ei gyfeirio ato’n aml fel XPS neu ESCA, yw'r dechneg dadansoddi arwyneb sy’n cael ei defnyddio fwyaf oherwydd ei fod yn gymharol syml i’w ddefnyddio ac i ddehongli data. Mae'r wybodaeth y mae XPS yn ei gynnig am haenau arwyneb neu strwythurau ffilm denau o werth mewn llawer o gymwysiadau diwydiannol gan gynnwys: addasu arwynebau polymer, catalysis, cerameg, cyrydiad, adlyniad, deunyddiau lled-ddargludyddion, pecynnu, cyfryngau magnetig, haenau ffilm tenau a hyd yn oed mewnblaniadau meddygol, bio-ddeunyddiau, dannedd ac esgyrn.
Offer
Enw | Brand/model | Manylion |
---|---|---|
XPS1 | Kratos Axis Ultra DLD | • Spectrosgopeg ffotoelectron pelydr-X (XPS), gyda chelloedd ISS a thriniaeth. |
XPS2 | K-Alpha+ Thermo Fisher Scientific | Sbectrosgopeg ffotoelectron pelydr-X trwygyrch uchel (XPS) sy’n delweddu a phroffilio dyfnder clwstwr argon. |
Cysylltwch
Dr David Morgan
- morgandj3@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 7066
Lleoliad
-
Main Building
Plas y Parc
CF10 3AT