Ewch i’r prif gynnwys

Synwyryddion mesur 3D inertiaidd y corff gan Xsens

Mae system Xsens yn hawdd ei gosod, gan ddadansoddi mudiant dynol mewn amser real yn ddibynadwy ac yn gywir.

Mae tracwyr symudiadau bach Xsens yn gallu dal y plyciau lleiaf un yn achos symudiadau deinamig uchel y corff gan sicrhau dadansoddi mudiannau 3D llawn.

Brand/model Xsens Awinda.
Manylion Synwyryddion mesur inertiaidd di-wifr a gwisgadwy y corff gan Xsens sy’n cynnig technoleg dadansoddi mudiant yr holl gorff gan ddefnyddio cinemateg 3D.
Cyfleuster Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Gyhyrysgerbydol (MSKBRF)
Ysgol Yr Ysgol Peirianneg
Manylion Biofecaneg, Adsefydlu, Rheoli Perfformiad ym maes Chwaraeon, Ffisiotherapi.

17 synhwyrydd di-wifr a osodir ar y corff gan ddefnyddio strapiau addasadwy.

Cysylltwch â’r Athro Cathy Holt, naill ai drwy e-bostio mskbrf@caerdydd.ac.uk neu drwy ffonio (0)29 2087 6436.

Bydd modd darparu costau a gymeradwyir yn amodol ar natur y defnydd.

Yn rhan o’r system ceir nodwedd gefnogaeth dechnegol ar sut i’w defnyddio a’i sefydlu. Bydd modd trafod gofynion unigol, yn ogystal â hyfforddiant a gynigir.

Cysylltwch

Professor Cathy Holt

Email
mskbrf@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6436

Lleoliad

T0.13
Queen's Buildings - South Building
5 The Parade
Heol Casnewydd
CF24 3AA