Ewch i’r prif gynnwys

Microsgop unionsyth ar gyfer microsgopeg maes llachar ac epifflworoleuedd

Mae’r Hwb Bioddelweddu yn gweithredu nifer o ficrosgopau ymchwil maes llydan confensiynol sydd yn cynnig amrywiaeth o dechnegau cyferbynnu optegol. Mae’r microsgopau yn rhan o rwydwaith gyfrifiadurol fodern gyda’r gallu i gipio delweddau digidol.

Mae’r microsgop Leica DMLB yn addas ar gyfer delweddu lliw maes llachar a delweddu epifflworoleuedd aml-sianel (RGB) o doriadau meinwe histolegol.

Brand/model Microsgop maes llachar ac epifflworoleuedd Leica DMLB
Manylion Addas ar gyfer dadansoddiad histolegol a dadansoddiad epifflworoleuedd amlsianel (RGB) o samplau meinwe ar sleidiau.
Cyfleuster Hwb Ymchwil Bioddelweddu
Ysgol Ysgol y Biowyddorau

Mae gan y microsgop Leica DMLB wrthrychiaduron 2.5x, 5x, 10x, 40x a 63x a chiwbiau adlewyrchu RGB are gyfer epifflworoleuedd. Camera lliw Jenoptik Progres CFscan a meddalwedd Progres CapturePro sydd wrth galon y microsgop.

Gwrthrychiaduron

  • Leica 2.5x/0.07 PL Fluotar
  • Leica 5x/0.12 PL Fluotar
  • Leica 10x/0.30 HC PL Fluotar
  • Leica 20x/0.50 HC PL Fluotar
  • Leica 40x/0.70 PL Fluotar
  • Leica 63x/0.70 (corr) HCX PL Fluotar

Mae modd i ddefnyddwyr mewnol gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer drwy galendr Outlook ‘BIOSI – Leica DMLB’.

Cliciwch yma i ddysgu sut i gadw lle trwy Outlook.

Bydd eich cais i ddefnyddio’r microsgop yn cael ei adolygu ac yna’i dderbyn/wrthod gan aelod o staff yr Hwb Bioddelweddu.

Cadwch at yr amser sydd wedi’i bennu. Bydd rhaid talu am yr amser sydd wedi’i gadw, o ddefnyddio’r offer neu beidio. Rhaid trefnu i ddefnyddio’r offer am o leiaf 1 awr.

Mae rhaid rhoi rhybudd o 24 awr fan lleiaf os ydych am ganslo. Os dydy’ch chi ddim yn dod i'r sesiwn a drefnwyd, bydd rhaid talu.

I gael manylion am gostau, cysylltwch â’r Hwb - Bioimaginghub@caerdydd.ac.uk

Cyn defnyddio’r offer yn yr Hwb, mae rhaid i bob defnyddiwr gael hyfforddiant a chael eu cofrestru gan staff yr Hwb Bioddelweddu.

Er mwyn cydymffurfio gyda Pholisi Iechyd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd, mae’n ofynnol bod unigolion yn derbyn hyfforddiant priodol cyn defnyddio offer delweddu yr Hwb Bioddelweddu a bod yn effro i’r risgiau sy’n ymwneud â’u defnyddio.

Os oes angen diweddaru eich hyfforddiant, rhowch wybod i aelod o staff wrth ichi gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer a bydd modd inni ei gynnal cyn eich sesiwn.

Mae disgwyl i bawb sy’n defnyddio’r Uned Bioddelweddu ddilyn y canllawiau canlynol. Bydd y rheiny nad ydynt yn cydymffurfio yn colli eu hawliau mynediad:

  • Dim bwyd na diod yn y cyfleuster.
  • Ewch ag unrhyw wastraff gyda chi (gan gynnwys menig labordy) a chewch wared arno’n briodol y tu allan i'r cyfleuster – dydyn ni ddim yn gyfrifol am eich gwastraff.
  • Mae perygl ichi faglu o adael cotiau a bagiau ar lawr yr ystafelloedd delweddu tywyll. Defnyddiwch fachau ar y drysau mewnol, neu gwell fyth, peidiwch â dod a nhw i'r cyfleuster.
  • Peidiwch â defnyddio offer dydych chi ddim wedi’ch hyfforddi i'w defnyddio. Rhaid i bob defnyddiwr ddarllen yr asesiad risg priodol ar gyfer y gwaith priodol a’i ddeall.
  • Mae rhaid gwneud yn siŵr bod pob dyfais storio data USB yn glir o unrhyw feirws cyn eu defnyddio yn unrhyw un o’n systemau.
  • Ar ddiwedd eich sesiwn, sicrhewch fod y systemau’n cael eu diffodd yn gywir a’ch bod yn cofnodi eich oriau defnydd yn gywir yn y gronfa ddata.

Cysylltwch

Dr Anthony J Hayes

Email
hayesaj@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6611

Lleoliad

E/0.04
Sir Martin Evans Building
Rhodfa'r Amgueddfa
CF10 3AX

Oriau agor

Mae’r Hwb ar agor Llun-Gwener 09:00 – 17:00. Am fynediad y tu allan i'r oriau yma, cysylltwch â gweinyddwr y cyfleuster.