Argraffydd 3D Ultimaker 3 Extended
Mae’r Ultimaker 3 Extended yn argraffydd 3D allwthiad deuol sydd yn gallu argraffu modelau 3D deuliw o ansawdd uchel ar sail data cyfaint.
Brand/model | Argraffydd 3D Ultimaker 3 Extended |
---|---|
Manylion | Argraffydd 3D sydd yn dyddodi haenau o blastid (LPD); maes gweithio o 215 x 215 x 300mm; cydraniad argraffu 20-200 micron. Meddalwedd Z-Suite sy’n derbyn ffeiliau .stl obj, .dxf a .3mf. |
Cyfleuster | Hwb Ymchwil Bioddelweddu |
Mae’r Ultimaker 3 Extended yn argraffydd 3D allwthiad deuol sy’n argraffu modelau 3D o ansawdd uchel ar sail data cyfaint trwy ddull FDM (Fused Deposition Modelling). Mae’n gallu argraffu ystod o ddeunyddiau mewn dau liw neu mewn un lliw gyda sgaffald hydoddadwy (PVA) sydd yn caniatáu argraffu modelau 3D cymhleth gan dorri lawr ar yr amser gorffen.
Meddalwedd Cura sydd wrth galon yr argraffydd, sydd yn gallu newid diwyg y ffeiliau 3D (.stl, .obj, .dae a .amf) i fodelau 3D uwch fanwl (20-200 micron) (mwyafswm cyfaint o 215 x 215 x 300mm).
Mae’r argraffydd ar gael i aelodau o staff sydd yn dymuno argraffu cyfarpar gwyddonol arbennig 3D, cynhyrchu modelau 3D er mwyn gwella dealltwriaeth o gysyniadau gwyddonol h.y. ar gyfer addysgu, estyn allan ac ymgysylltu gwyddonol.
Mae modd i ddefnyddwyr mewnol gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer drwy galendr Outlook ‘BIOSI – Ultimaker 3 3D printer’.
I gael manylion am gostau, cysylltwch â bioimaginghub@caerdydd.ac.uk
Cysylltwch â bioimaginghub@caerdydd.ac.uk
Er mwyn cydymffurfio gyda Pholisi Iechyd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd, mae’n ofynnol bod unigolion yn derbyn hyfforddiant priodol cyn defnyddio’r system a bod yn effro i’r risgiau sy’n ymwneud â’i ddefnyddio.
Mae disgwyl i bawb sy’n defnyddio’r system ddilyn y canllawiau canlynol. Bydd y rheiny nad ydynt yn cydymffurfio yn colli eu hawliau mynediad:
- Dim bwyd na diod yn y cyfleuster.
- Ewch ag unrhyw wastraff gyda chi (gan gynnwys menig labordy) a chewch wared arno’n briodol y tu allan i'r cyfleuster– dydyn ni ddim yn gyfrifol am eich gwastraff.
- Mae perygl ichi faglu o adael cotiau a bagiau ar lawr yr ystafelloedd delweddu tywyll. Defnyddiwch fachau ar y drysau mewnol, neu gwell fyth, peidiwch â dod a nhw i'r cyfleuster.
- Peidiwch â defnyddio offer dydych chi ddim wedi’ch hyfforddi i'w defnyddio. Rhaid i bob defnyddiwr ddarllen yr asesiad risg priodol ar gyfer y gwaith priodol a’i ddeall.
- Mae rhaid gwneud yn siŵr bod pob dyfais storio data USB yn glir o unrhyw feirws cyn eu defnyddio yn unrhyw un o’n systemau.
- Ar ddiwedd eich sesiwn, sicrhewch fod y systemau’n cael eu diffodd yn gywir a’ch bod yn cofnodi eich oriau defnydd yn gywir yn y gronfa ddata.
Cysylltwch
Dr Peter Watson
- watsonpd@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 9042
Lleoliad
Sir Martin Evans Building
Rhodfa'r Amgueddfa
CF10 3AX
Oriau agor
Adnoddau
No results were found