System Pwysau Tekscan Plantar
Mae'r system gludadwy hon yn caniatáu mesur pwysedd traed yr esgid mewn ystod o weithgareddau megis cerdded, rhedeg a neidio.
Brand/model | Tekscan F-Scan VersaTek. |
---|---|
Manylion | System Mesur Pwysau yn yr Esgid. |
Cyfleuster | Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Gyhyrysgerbydol (MSKBRF) |
Ysgol | Yr Ysgol Peirianneg |
Lleolir synwyryddion F-Scan (yn y mewnwadn) yn esgid y sawl sy’n cymryd rhan. Ym mhob synhwyrydd ceir 960 o leoliadau synhwyro pwysedd unigol, gan fesur pwysedd traed yn yr esgid. Mae'r sawl sy’n cymryd rhan yn gwisgo uned ddi-wifr am eu canol ac unedau caffael cyffiau ynghlwm wrth bob ffêr, a chysylltir y rhain â synwyryddion y mewnwadnau. Mae synwyryddion F-Scan yn dafladwy ac mae ganddyn nhw hyd oes cyfyngedig. Byddai hyd a lled yr ymchwil yn pennu nifer y synwyryddion y mae eu hangen.
Cysylltwch â’r Athro Cathy Holt, naill ai drwy e-bostio mskbrf@caerdydd.ac.uk neu drwy ffonio (0)29 2087 6436.
Bydd modd darparu costau a gymeradwyir yn amodol ar natur y defnydd.
Yn rhan o’r system ceir nodwedd gefnogaeth dechnegol ar sut i’w defnyddio a’i sefydlu. Bydd modd trafod gofynion unigol, yn ogystal â hyfforddiant a gynigir.
Cysylltwch
Professor Cathy Holt
- mskbrf@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6436
Lleoliad
Queen's Buildings - South Building
5 The Parade
Heol Casnewydd
CF24 3AA