Offeryn Gwasgaru Golau DynaPro® Plate Reader III
Brand/model | Offeryn Gwasgaru Golau DynaPro® Plate Reader III |
---|---|
Manylion | Mae DynaPro® Plate Reader III yn offeryn gwasgaru golau dynamig sy’n hynod sensitif ac wedi’i awtomeiddio. Ac yntau’n offeryn trwybwn uchel, 817.28 nm yw tonfedd y laserau, a 158° yw’r ongl gwasgaru. Mae'n gallu mesur gronynnau/moleciwlau rhwng 1 nm a 2 µm mewn diamedr hydrodynamig a rhoi gwybodaeth am bolywasgariad. Mae angen defnyddio plât ffynnon 96-, 384- neu 1536-, sy’n golygu bod y gallu i ddefnyddio cyfeintiau samplu bach (mor fach â 4 μL fesul ffynnon) yn fantais fawr. Amrediad tymheredd gweithredu/mesur yr offeryn yw 4°C hyd at 85°C. Mae'n defnyddio meddalwedd DYNAMICS ar gyfer casglu a dadansoddi data. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y system neu gael hyfforddiant a chofrestru i’w defnyddio, cysylltwch â ni. |
Ysgol | Ysgol Deintyddiaeth |
Cysylltwch
Dr Elaine Ferguson
Lleoliad
University Dental Hospital
Parc y Mynydd Bychan
CF14 4XY
Parc y Mynydd Bychan
CF14 4XY