Microsgop Cydffocal Disg Troelli
Mae’r labordy delweddu celloedd byw yn yr Hwb Ymchwil Bioddelweddu yn gartref i system ficrosgop cydffocal sy’n defnyddio disg sy’n troelli ar gyfer prosesau delweddu treigl-amser a chyflym. Mae’r system yma’n paratoi delweddau cyflym, fflworoleuedd aml-liw ac aml-safle (x,y,z) . Ar ben hynny, mae systemau ategol gyda’r labordy ar gyfer delweddu celloedd byw (h.y. nwy a magwrydd).
Brand/model | Microsgop gwrthdro modurol Olympus IX71 |
---|---|
Manylion | Delweddydd cydffocal Crest Optics X-Light V2; Banc laser tair llinell Cairn Research (405nm; 488nm; 561nm); camera digidol Hamamatsu ORCA Flash 4 CMOS gyda holltydd delwedd M-View Gemini |
Cyfleuster | Hwb Ymchwil Bioddelweddu |
Ysgol | Ysgol y Biowyddorau |
Mae i’r system wrthrychiaduron x4, x10, x20, x40, x60 (olew) a x100 (olew) a hidlyddion RGB ar gyfer delweddau epifflworoleuol. Mae iddo blât archwilio, wedi’i fotoreiddio (x,y,z) PriorScan II, twred hidlo a chaead modurol gyda hidlyddion ar gyfer delweddu DAPI, FITC, TRITC, CFP, YFP a RFP. Mae iddo hefyd sganiwr laser cydffocal disg troelli Crest Optics X-Light V2, banc laser tair llinell (405nm, 488nm, 561nm) a chamera digidol monocrom Hamamatsu ORCA 4.0 Flash 4.0 CMOS gyda optegau hollti delwedd M-View Gemini. Meddalwedd microsgopeg awtomatig Molecular Devices MetaMorph ynghyd â meddalwedd dadansoddi delweddau sy’n rheoli’r microsgop.
Gwrthrychiaduron
- 4x/0.13 UPlan FLN
- 10x/0.30 UPlan Fl
- 20x/0.45 LUCPlan FLN
- 40x/0.60 LUCPlan FLN
- 60x/1.42 PlanApo N Oil
- 100x/1.40 UPlanSApo Oil
Laserau
- Diode 405nm (100mW)
- Diode 488nm (150mW)
- Diode 561nm (100mW)
Mae modd i ddefnyddwyr mewnol gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer drwy galendr Outlook ‘BIOSI - Olympus IX71 live cell system’.
Cliciwch yma i ddysgu sut i gadw lle trwy Outlook.
Bydd eich cais i ddefnyddio’r microsgop yn cael ei adolygu ac yna’i dderbyn/wrthod gan aelod o staff yr Hwb Bioddelweddu.
Cadwch at yr amser sydd wedi’i bennu. Bydd rhaid talu am yr amser sydd wedi’i gadw, o ddefnyddio’r offer neu beidio. Rhaid trefnu i ddefnyddio’r offer am o leiaf 1 awr.
Mae rhaid rhoi rhybudd o 24 awr fan lleiaf os ydych am ganslo. Os dydy’ch chi ddim yn dod i'r sesiwn a drefnwyd, bydd rhaid talu.
I gael manylion am gostau, cysylltwch â’r Arweinydd Academig ar gyfer Delweddu:
Yr Athro Pete Watson
E-bost: watsonpd@caerdydd.ac.uk
Ffôn: +44 (0)29 2087 9042
I gael manylion am hyfforddiant, cysylltwch â’r Arweinydd Academig ar gyfer Delweddu:
Yr Athro Pete Watson
E-bost: watsonpd@caerdydd.ac.uk
Ffôn: +44 (0)29 2087 9042
Er mwyn cydymffurfio gyda Pholisi Iechyd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd, mae’n ofynnol bod unigolion yn derbyn hyfforddiant priodol cyn defnyddio’r system a bod yn effro i’r risgiau sy’n ymwneud â’i ddefnyddio.
Mae’n rhaid i ddefnyddwyr:
- Dderbyn hyfforddiant gan aelod o staff yr Hwb Bioddelweddu (nid yw hyfforddiant anuniongyrchol gan ddefnyddwyr eraill yn ddigonol).
- Darllen yr Asesiad Risg diweddaraf ar gyfer yr Hwb Bioddelweddu a’i ddeall
- Llenwi ffurflen Cofrestru Gweithiwr Laser
Mae disgwyl i bawb sy’n defnyddio’r system ddilyn y canllawiau canlynol. Bydd y rheiny nad ydynt yn cydymffurfio yn colli eu hawliau mynediad:
- Dim bwyd na diod yn y cyfleuster.
- Ewch ag unrhyw wastraff gyda chi (gan gynnwys menig labordy) a chewch wared arno’n briodol y tu allan i'r cyfleuster– dydyn ni ddim yn gyfrifol am eich gwastraff.
- Mae perygl ichi faglu o adael cotiau a bagiau ar lawr yr ystafelloedd delweddu tywyll. Defnyddiwch fachau ar y drysau mewnol, neu gwell fyth, peidiwch â dod a nhw i'r cyfleuster.
- Peidiwch â defnyddio offer dydych chi ddim wedi’ch hyfforddi i'w defnyddio. Rhaid i bob defnyddiwr ddarllen yr asesiad risg priodol ar gyfer y gwaith priodol a’i ddeall.
- Mae rhaid gwneud yn siŵr bod pob dyfais storio data USB yn glir o unrhyw feirws cyn eu defnyddio yn unrhyw un o’n systemau.
- Ar ddiwedd eich sesiwn, sicrhewch fod y systemau’n cael eu diffodd yn gywir a’ch bod yn cofnodi eich oriau defnydd yn gywir yn y gronfa ddata.
Cysylltwch
Dr Peter Watson
- watsonpd@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 9042
Lleoliad
Sir Martin Evans Building
Rhodfa'r Amgueddfa
CF10 3AX