Samsung uwchsain cludadwy
Mae'r Samsung RS80A yn system uwchsain cydraniad uchel sy'n gallu troi at amrywiaeth o ddefnyddiau. Mae'r system yn gludadwy.
Brand/model | System uwchsain Samsung RS80A. |
---|---|
Manylion | Uwchsain o ansawdd uchel gyda nifer o drawsyryddion pelydr llinellol addas i'w defnyddio ar gyfer MSK, abdomen, fasgwlaidd ac organau bach. Gellir ei ddefnyddio hefyd at amrywiaeth o ddibenion ymchwil ar ddeunyddiau e.e. geliau. |
Cyfleuster | Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Gyhyrysgerbydol (MSKBRF) |
Ysgol | Yr Ysgol Peirianneg |
Ar hyn o bryd, mae ein system wedi'i gyfarparu â'r trawsddygiaduron amrediad llinol 2D canlynol sy'n addas ar gyfer cymwysiadau uwchsain cyhyrau, abdomen, fasgwlaidd ac organau bach:
- L3-12A gyda maes golwg o 50mm
- LA2-9A gyda maes golwg o 44.16mm
- LA4-18B gyda maes golwg 37.5mm.
Cysylltwch â’r Athro Cathy Holt, naill ai drwy e-bostio mskbrf@caerdydd.ac.uk neu drwy ffonio (0)29 2087 6436.
Bydd modd darparu costau a gymeradwyir yn amodol ar natur y defnydd.
Yn rhan o’r system ceir nodwedd gefnogaeth dechnegol ar sut i’w defnyddio a’i sefydlu. Bydd modd trafod gofynion unigol, yn ogystal â hyfforddiant a gynigir.
Yn gyffredinol, ystyrir uwchsain yn ddull diogel iawn o ddelweddu gan na ddefnyddir ymbelydredd. Mae gan yr uwchsain mynegeion arddangos i alluogi monitro mynegai thermol (TI) a'r mynegai mecanyddol (MI) yn ystod y defnydd. Mae angen i Reolwr y Lab a Rheolwr Iechyd a Diogelwch ENGIN gymeradwyo asesiad manwl o risg tasg (RA) cyn ei ddefnyddio.
Dim ond pan fydd budd clinigol neu ymchwil y dylid defnyddio uwchsain. Dylai pob astudiaeth sy'n defnyddio uwchsain ar gyfranogwyr dynol gael eu cymeradwyo'n llawn gan foeseg ENGIN cyn y gellir sganio.
Cysylltwch
Professor Cathy Holt
- mskbrf@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6436
Lleoliad
Queen's Buildings - South Building
5 The Parade
Heol Casnewydd
CF24 3AA