System Recordio Symudiadau Qualisys 2
Mae'r system hon yn cynnwys 12 uned recordio symudiadau Oqus o safon uchel y gellir eu defnyddio ar gyfer ystod eang o ddisgyblaethau ymchwil at ddibenion olrhain symudiadau.
Mewn gwaith ymchwil sy’n seiliedig ar bobl, mae modd defnyddio'r system ar y cyd â synwyryddion electromyograffeg, platiau grym a grisiau wedi’u hofferynnu, gan gynnig gallu mesur o’r radd flaenaf. Hefyd, mae camera fideo cyflymder uchel Oqus 210c wedi'i addasu i weithio gyda'r system recordio symudiadau ar gael.
Brand/model | Set gamera Qualisys Oqus 700+ 12, ynghyd â chamera fideo Oqus 210c |
---|---|
Manylion | System Recordio Symudiadau Qualisys - Labordy Symudiad Dynol. |
Cyfleuster | Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Gyhyrysgerbydol (MSKBRF) |
Ysgol | Yr Ysgol Peirianneg |
Manylion | Dadansoddi Fectoru, Dadansoddi Cerddediad, Biofecaneg, Adsefydlu, Rheoli Perfformiad ym maes Chwaraeon, Ffisiotherapi. |
Mae camerâu isgoch 12 Mpixel Oqus 700+ yn gallu recordio lleoliadau marciau gyda chuddni isel iawn. Mae modd cydamseru'r system â phlatiau grym, synwyryddion electromyograffeg a'r grisiau symudol os oes angen. Mae citiau calibradu 600 a 300 ar gael. Mae modd gosod y camerâu mewn amrywiaeth o leoliadau, oherwydd y system olwynion wedi'i gosod ar wal, a gellir eu trosglwyddo hefyd i drybeddau os oes angen. Mae hyn yn caniatáu creu protocolau pwrpasol ar gyfer ystod eang o gymwysiadau ymchwil.
Cysylltwch â’r Athro Cathy Holt, naill ai drwy e-bostiomskbrf@caerdydd.ac.uk neu drwy ffonio (0)29 2087 6436.
Bydd modd darparu costau a gymeradwyir yn amodol ar natur y defnydd.
Yn rhan o’r system ceir nodwedd gefnogaeth dechnegol ar sut i’w defnyddio a’i sefydlu. Bydd modd trafod gofynion unigol, yn ogystal â hyfforddiant a gynigir.
Cysylltwch
Professor Cathy Holt
- mskbrf@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6436
Lleoliad
5 The Parade
Heol Casnewydd
CF24 3AA