Ewch i’r prif gynnwys

System Recordio Symudiadau Qualisys 1

Mae'r system hon yn cynnwys 10 uned recordio symudiadau Oqus o safon uchel. Gall y systemau hyn gael eu defnyddio gan amrywiaeth eang o ddisgyblaethau ymchwil er mwyn olrhain symudiadau.

Ar gyfer ymchwil sy’n seiliedig ar bobl, gellir defnyddio'r system ar y cyd â synwyryddion electromyograffeg, platiau grym a grisiau wedi'u hofferynnu, gan gynnig gallu mesur o'r radd flaenaf. Hefyd, mae camera fideo cyflymder uchel Oqus 210c wedi'i addasu i weithio gyda'r system recordio symudiadau ar gael.

Brand/model Set gamera Qualisys Oqus 700+ 10, ynghyd â chamera fideo Oqus 210c
Manylion System Recordio Symudiadau Qualisys - Labordy Symudiad Dynol.
Cyfleuster Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Gyhyrysgerbydol (MSKBRF)
Ysgol Yr Ysgol Peirianneg
Manylion Dadansoddi Fectoru, Dadansoddi Cerddediad, Biofecaneg, Adsefydlu, Rheoli Perfformiad ym maes Chwaraeon, Ffisiotherapi.

Mae camerâu isgoch 12 Mpixel Oqus 700+ yn gallu recordio lleoliadau marciau gyda chuddni isel iawn. Mae modd cydamseru'r system â phlatiau grym, synwyryddion electromyograffeg a'r grisiau symudol os oes angen. Mae citiau calibradu 600 a 300 ar gael. Mae modd gosod y camerâu mewn amrywiaeth o leoliadau, oherwydd y system olwynion wedi'i gosod ar wal, a gellir eu trosglwyddo hefyd i drybeddau os oes angen. Mae hyn yn caniatáu creu protocolau pwrpasol ar gyfer ystod eang o gymwysiadau ymchwil.

Cysylltwch â’r Athro Cathy Holt, naill ai drwy e-bostiomskbrf@caerdydd.ac.uk neu drwy ffonio (0)29 2087 6436.

Bydd modd darparu costau a gymeradwyir yn amodol ar natur y defnydd.

Cysylltwch

Professor Cathy Holt

Email
mskbrf@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6436

Lleoliad

Queen's Buildings - South Building
5 The Parade
Heol Casnewydd
CF24 3AA