Delweddydd Moleciwlaidd
Mae Molecular Dynamics (GE) Typhoon™ 9410 Variable Mode Imager yn uno technoleg storio ffosffor awto-radiograffeg gyda thechnegau labelu fflworoleuol pedwar-lliw anymbelydrol.
Mae Molecular Dynamics (GE) Typhoon™ 9410 Variable Mode Imager yn uno technoleg storio ffosffor awto-radiograffeg gyda thechnegau labelu fflworoleuol pedwar-lliw anymbelydrol.
MANYLEB DECHNEGOL
Ar gyfer RNA DNA a samplau protein gyda'r Molecular Dynamics Typhoon 9410, gallwch ddewis o:
- storio ffosffor awto-radiograffeg
- fflworoleuedd glas-gyffrous uniongyrchol (457 488 nm)
- fflworoleuedd gwyrdd-gyffrous uniongyrchol (532 nm)
- fflworoleuedd coch-gyffrous uniongyrchol (633 nm)
- cemoleuedd
Pan ddewisir un o'r dulliau sganio, mae'r Typhoon 9410 yn actifadu'r cydrannau optegol priodol yn awtomatig. Mae Typhoon 9410 yn sganio blotiau gel a sgriniau ffosffor storio wedi'u mowntio neu heb eu mowntio hyd at 35 × 43 cm. Mae'r Typhoon 9410 yn arddangos cywirdeb meintiol llinol rhagorol a chyfyngiadau canfod hynod o isel.
Daw pob model Typhoon gydga ImageQuant™ TL
I neilltuo’r cyfarpar hwn, ebostiwch Dean Routledge drwy routledged1@caerdydd.ac.uk gan nodi’r:
- cyfarpar yr hoffech chi ei neilltuo
- rhif yr ystafell y mae ynddi (Ystafell 1.14)
- y dyddiad a'r amser yr hoffech chi ei neilltuo
- am ba mor hir y mae angen i chi ddefnyddio'r cyfarpar
I ofyn cwestiynau technegol am y cyfarpar dan sylw, anfonwch ebost at Arwyn Jones drwy jonesat@caerdydd.ac.uk
Cysylltwch
Professor Arwyn Jones
- jonesat@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6431
Lleoliad
Redwood Building
Rhodfa'r Brenin Edward VII
CF10 3NB