Mae dilyniannwr bwrdd gwaith MiSeq yn rhoi mynediad at gymwysiadau megis dilyniannu genynnau wedi’i dargedu, metagenomeg, dilyniannu genomau bach, mynegi genynnau wedi’i dargedu a dilyniannu amplicon. Mae’n cynhyrchu hyd at 15 Gb o allbwn gyda 25 miliwn o ddilyniannau a dilyniannau 2x300 bp o ran eu hyd.